Cyflwynir y cais hwn yn amodol ar ymgynghori pellach â'r diwydiant, a bydd yn ceisio mabwysiadu dull a model tebyg i'r Cynllun Llysgennad Twristiaeth yn Sir Ddinbych https://www.ambassador.wales/cy/ambassador-courses/denbighshire-tourism-ambassador-scheme/ sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi cael croeso gan y diwydiant twristiaeth. Mae’r gwaith ymchwil cefndirol sydd wedi cael ei wneud hyd yma wedi bod yn destun cyfathrebu agos gyda chydweithwyr yn siroedd eraill Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri i sicrhau bod unrhyw raglen a gaiff ei datblygu yn cynnwys elfen o gysondeb ar draws y rhan fwyaf o’r rhanbarth, a sicrhau hefyd bod y rhaglen yn hawdd ei defnyddio a bod dealltwriaeth, cydnabyddiaeth a mynediad i ddefnyddwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Maw sawl busnes twristiaeth yng Nghonwy wedi mynegi eu dymuniad i weld yr un Cynllun Llysgennad Twristiaeth ar waith yng Nghonwy ac i fwrw ymlaen â’r un cynigion a nodir ac a roddwyd ar waith yn Sir Ddinbych, fel yr amlinellwyd isod:
- Modiwlau dysgu ar-lein/ seiliedig ar wybodaeth - lefelau Efydd, Arian, Aur ac Arbenigol gan
- Barhau â theithiau dysgu lleol penodol/ cyfleoedd rhwydweithio/ gweithdai.
- Pecyn adnoddau ar-lein
- Sesiynau mentora a meithrin gallu
Modiwlau Dysgu Ar-lein / Seiliedig ar Wybodaeth
Byddai’r rhaglen yn cael ei disgrifio’n rhaglen hyfforddiant haenog sy’n ceisio meithrin cymuned o Lysgenhadon Twristiaeth ar gyfer eu hardaloedd a allai ddatblygu i fod yn Llysgenhadon i’r sir gyfan, neu ogledd Cymru fel rhanbarth. Byddai’n adnodd dysgu ar-lein sy’n defnyddio amryw o dechnegau dysgu (testun, fideo, delweddau) gan orffen gyda ‘chwis’ ar gyfer pob modiwl y byddai angen ei basio er mwyn gallu cael yr achrediad. Nodwyd y byddai modiwlau digidol ar-lein ar gyfer busnesau twristiaeth yn gwella’r profiad cyffredinol i ymwelwyr. Ei nod yw creu lefel gwybodaeth a safon gwasanaeth gwaelodol, gan roi hyder i fusnesau wrth gyfathrebu ag ymwelwyr am adnoddau naturiol a diwylliannol yr ardal.
Bydd modiwlau digidol y Llysgennad yn cynnig nifer o fodiwlau e-ddysgu. Byddai’n dal modd i benderfynu ar themâu yn seiliedig ar fewnbwn gan y diwydiant, ond gallai, er enghraifft, gynnwys testunau fel y rhain:-
- Croeso i Ymwelwyr, Naws am Le/ Gwybodaeth am yr ardal - Conwy Wledig e.e. oeddech chi’n gwybod/ ffeithiau?
- Bwyd a Diod
- Y Celfyddydau a Diwylliant
- Cestyll a Threftadaeth
- Tirluniau/ Yr Awyr Agored
- Datblygu gwybodaeth a hybu’r defnydd o'r Gymraeg
- Twristiaeth Gyfrifol
Mae’r model ar-lein yn caniatáu hyblygrwydd i Lysgenhadon ddysgu yn eu pwysau eu hunain, pan fo hynny’n gyfleus ac mewn lleoliad o’u dewis. Byddai gofyn i lysgenhadon gwblhau tri modiwl craidd sy’n darparu gwybodaeth eang am yr ardal, am ddiwylliant ac iaith, ac yna gallent ddewis cwblhau modiwlau ychwanegol sydd yna’n berthnasol ac/neu o ddiddordeb iddynt. Rydyn ni’n edrych ar y dewisiadau i ddangos cydnabyddiaeth i lysgenhadon ar ôl cwblhau modiwlau. Rhywbeth o safon gydag ymdeimlad lleol y byddai’r Llysgennad yn falch i’w arddangos yn eu heiddo.
Byddai modd ychwanegu a diwygio modiwlau ar y llwyfannau yn ôl yr angen. Bydd y llwyfan yn cael ei rheoli a’i chydlynu gan wasanaeth datblygu twristiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Pecyn o Adnoddau ar-lein
Roedd y Llysgenhadon yn awyddus i ddatblygu pecyn dwyieithog o adnoddau ar-lein a allai gynnwys y canlynol:
- Ffilmiau ar amryw o destunau lleol
- Ffotograffau/ ffilmiau lleol o ansawdd uchel
- Taith Ddysgu/ nodiadau/trafodaethau gweithdy
- Dolenni i wefannau perthnasol
- Blogiau/Flogiau/Podlediadau
- Mynediad hawdd at offer brandio i gysylltu ag ymgyrchoedd marchnata presennol fel Ymgyrch Farchnata ‘Ymgollwch yn y..’ Conwy
Sesiynau mentora a meithrin gallu
Mae gan lysgenhadon amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau y gellid eu rhannu a’u defnyddio i wella ymgysylltu â busnesau a'r profiad i ymwelwyr. Bydd Llysgenhadon yn cael eu hannog i fod yn fentoriaid/ cyfeillio â Llysgenhadon eraill i rannu gwybodaeth berthnasol lle bo angen, datblygu perthnasoedd a thraws-rwydweithio.
Gallem gynnig y cyfle am sesiynau meithrin gallu a fydd yn cyd-fynd â nod cyffredinol y llysgennad ac yn cynorthwyo ymarfer ar y modiwlau ar-lein. Byddai modd gwneud y rhain mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill fel Busnes Cymru, Coleg Llandrillo ac ati. Byddai’n cynnwys sesiynau dysgu byr mewn pynciau fel ffotograffiaeth, ffilmio, marchnata, gwasanaeth cwsmeriaid, yn dibynnu ar adborth y Llysgennad.
Y costau sydd ynghlwm â’r prosiect fyddai ymchwil, ymgynghori a gosod hawlfraint ar fodiwlau dysgu ar-lein / seiliedig ar wybodaeth. Cynhyrchu modiwlau a’r gwaith technegol o adeiladu gwefan i gynnal modiwlau hyfforddiant ac adnoddau ar-lein (gan gynnwys cyfieithu er mwyn cael adnoddau dysgu cwbl ddwyieithog). Hefyd, bydd elfen o gyllid ar gyfer hyrwyddo, ymgysylltu, a lansio i’r diwydiant.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£25830.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Conwy
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 3
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Clare Sharples
- Cyfeiriad e-bost:
- Clare.sharples@conwy.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts