Beicio Rhoi Cynnal Cognation

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fun arwain prosiect Llwybr Beicio Cognation De Cymru (beicio mynydd) a hynny gyda chefnogaeth Croeso Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn awr yn chwilio am gyllid gan y Cynllun Datblygu Gwledig i adeiladu ar lwyddiant prosiect peilot Beicio, Rhoi, Cynnal drwyr gweithgareddau a ganlyn: 
  • Cynyddu nifer y blychau rhoddion, wediu brandio, a gaiff eu gosod ar safleoedd busnesau 
  • Creu cynllun syn codi swm ychwanegol pan fydd ymwelwyr yn talu am ystafell mewn gwesty, ond byddant yn gallu dewis peidio i dalu 
  • Archwilior posibilrwydd o ddatblygu cynllun ymaelodi i feicwyr mynydd gan gynnig gwobrau a chynigion gan fusnesau Parc Coedwig Afan iw hysgogi i gymryd rhan. Byddair cynllun yn dod busnesau lleol ynghyd i gyflawni nod cyffredin, au hannog i weithio mewn partneriaeth
  • Creu cysylltiadau manwerthwyr a chynhyrchwyr er mwyn gwerthu nwyddau o dan frand Cognation 
  • Datblygu mentrau proffesiynol i godi arian a thargedu noddwyr corfforaethol posibl a buddsoddwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat ar trydydd sector

"

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£60,078
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2
Cognation Bike Give Sustain

Cyswllt:

Enw:
Susan Chilcott
Rhif Ffôn:
01639 686060
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.cognation.co.uk/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts