Cows

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 4 Gorffennaf 2022 ac yn cau ar 12 Awst 2022.

Y dyraniad cyllideb dangosol ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn yw £15 miliwn.

Mae’r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau yn gynllun cyfalaf sydd ar gael i ffermwyr yng Nghymru i wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol eu busnesau fferm.

Yr amcanion yw cefnogi buddsoddiadau i wella'r ffordd mae maethynnau'n cael eu rheoli ar ffermydd; i ddiogelu a gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer; i wella effeithlonrwydd adnoddau ar y fferm; i wella perfformiad technegol ac i ddefnyddio technegol i wella penderfyniadau rheoli.

Mae'r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau yn cefnogi buddsoddiadau mewn seilwaith a buddsoddiadau cyfalaf mewn offer a pheiriannau sydd wedi cael eu nodi ymlaen llaw i fynd i'r afael ag effaith llygredd ar y fferm, gan gynnig manteision clir ac amlwg i'ch busnes fferm a'r amgylchedd ehangach.

Darllenwch reolau a chanllawiau'r cynllun cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb.

Os ydych yn cael eich dewis bydd rhaid ichi allu cwblhau'r holl eitemau o waith cyfalaf erbyn 31 Mawrth 2025.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, pwy sy'n gymwys ar gyfer y cynlun a sut i wneud cais yma: https://llyw.cymru/cynllun-buddsoddi-mewn-rheoli-maethynnau