Tree planting

Mae'r grant hwn yn darparu cymorth ariannol ar gyfer creu arwynebeddau mwy o goetir, neu ardaloedd llai nad ydynt yn addas ar gyfer y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir.

Bydd y cyfnod ymgeisio nesaf yn agor ar ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023 ac yn cau ar 15 Medi 2023, a bydd cyllid grant gwerth cyfanswm o £11.05 miliwn ar gael. 

Mae'r cynllun yn darparu cyllid ar gyfer plannu coed a gosod ffensys a gatiau o amgylch yr ardaloedd plannu.

Mae hefyd yn cynnig taliadau cynnal a chadw a thaliadau premiwm am 12 mlynedd (digolledu am golli incwm amaethyddol)

Ni fydd plannu coed o dan y cynllun yn effeithio ar Gynllun y Taliad Sylfaenol neu gymhwysedd tir.

Gallwch ddod o hyd i'r holl ganllawiau a gwybodaeth gan gynnwys sut i wneud cais am y grant yma: https://www.llyw.cymru/grant-creu-coetir