Gan ddod â 10 o bartneriaid ynghyd o wyth gwlad yn Ewrop – gan gynnwys Sbaen, yr Eidal, Romania, Iwerddon, yr Almaen, Sweden, Gwlad Pwyl a Chymru –mae Cohes3ion yn brosiect tair blynedd o hyd sy’n bwriadu hybu twf busnes a chreu swyddi ledled Ewrop drwy gyfrwng ymarfer a pholisi gorau.

Yn fwy penodol, bwriad y prosiect yw integreiddio blaenoriaethau lleol a rhanbarthol i mewn i bolisïau ar y cyd, er mwyn cynyddu’u hargraff a’u perfformiad, tra ar yr un pryd yn cryfhau cyswllt o fewn sectorau Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (RD&I) ar draws busnesau yn y sectorau preifat a chyhoeddus fel ei gilydd.

Cyflwynwyd mynychwyr a phartneriaid Llywodraeth Cymru i arweinwr prosiect Cohes3ion, a chawsant olwg ar ddata cymdeithasol-economaodd, trosolwg o nodau’r prosiect, a detholiad o astudiaethau achos oedd yn gysylltiedig â’r diwydiant i’w harchwilio. Byddan nhw’n ailymgynnull ar gyfer ail gyfarfod ym mois Ionawr 2020, a ddylai ddigwydd yn Ruhr, yr Almaen.

Meddai’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams: “Mae prosiect Cohes3ion yn cyfochri’n agos â Chynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru, sy’n rhan o strategaeth genedlaethol Cymru ac sy’n amlinellu nodau ar gyfer tyfu ein heconomi a lleihau anghyfartaledd.

“Rydym wedi ymrwymo i gynnal a thyfu ein perthynas â phartneriaid yn Ewrop, a thrwy gyfrwng prosiectau deinamig fel Cohes3ion, rydym eisiau arddangos Cymru fel economi sy’n tyfu, ble gwelir arbenigedd technolegol yn arwain y gad o ran arloesi.”

I gael rhagor o wybodaeth am Brosiect Cohes3ion, ewch i www.interregeurope.eu/cohes3ion/, ac i ddarllen Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru, chwiliwch am https://llyw.cymru/ffyniant-i-bawb-y-cynllun-gweithredu-ar-yr-economi?_ga=2.184765609.146377767.1572597750-1622809714.1562066673

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen