Abriox Limited

Mae Abriox Ltd. o Gasnewydd, sef cwmni sy’n arwain ac yn arloesi ym maes monitro o bell, yn ehangu ei werthiant rhyngwladol â chymorth arian gan Lywodraeth Cymru.

AD-OAT Project

Drwy gydweithredu, llwyddodd academyddion a phartneriaid diwydiannol i ddatblygu cynhwysyn newydd mewn bwyd dofednod a allai fod â gwerth masnachol sylweddol. Daw â budd economaidd i’r sector dofednod a bydd yn gwella diogelwch bwyd cwsmeriaid.

Adventa

Adventa’n lansio ystodau unigryw o gynnyrch ledled y byd gyda chymorth arloesi Llywodraeth Cymru.

Adwell Foods - Welsh Brew Tea

Sefydlwyd Adwell Foods ym 1993 yn y Mwbwls ar Benrhyn Gwyr i gynhyrchu a gwerthu amrywiaeth
o gynnyrch ar gyfer y farchnad diodydd poeth.

Alchemy Expo

Mae cwmni Alchemy Expo, sy’n arloesi mewn creu arddangosiadau corfforaethol o fri, yn bwriadu ehangu ei wasanaethau er mwyn cyrraedd marchnad byd eang.

Allied Aerosystems

Sefydlwyd Allied Aerosystems ym 1998 i brofi a graddnodi cynnyrch peirianneg sy’n cael eu defnyddio’n bennaf yn y sector awyrofod. Roedd cefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac arian yr Undeb Ewropeaidd yn gefn iddo, wedi galluogi’r cwmni o Drefforest i fuddsoddi’n strategol mewn peiriannau newydd a, thrwy hynny, dreiddio i farchnadoedd newydd, agor ffatri newydd yn Ffynnon Taf a chyflogi rhagor o staff.

Analysis Pro

Mae Analysis Pro Ltd o Lanelli, ymgynghoriaeth o arbenigwyr ar ddadansoddi fideo, wedi datblygu meddalwedd ffilmio unigryw o ansawdd gwych sydd wedi chwildroi dadansoddi perfformiad, gan ymestyn gwasanaethau’r cwmni dros y byd i gyd.

Bangor University BioComposites Centre

Academwyr a phartneriaid busnes o Gymru’n datblygu ffordd newydd o drin pren a fydd yn hwb i ddiwydiant pren Cymru.

Bangor University Seaweed Cultivation

Academwyr a phartneriaid diwydiannol o Gymru ar fin mentro i’r farchnad gwymon fyd-eang gwerth £4 biliwn ar ôl darganfod gwerth economaidd anferth gwymon yn y diwydiannau cosmetig a bwyd.