Mae Splice Cast Ltd yn ddylunydd pwysig sy’n gwneud chwistrellwyr ar gyfer rhoi plastig mewn mowld a chyda’r help y mae wedi’i gael gan Lywodraeth Cymru, mae wedi gallu ehangu ei gynhyrchion a datblygu o fewn marchnadoedd newydd.
Mae Super Rod Ltd yn dylunio, cynhyrchu a marchnata offer sy’n arbed gwaith llafur ar gyfer gweithwyr gosod ceblau proffesiynol mewn diwydiannau data, telathrebu a chlyweled.
Mae becws traddodiadol o Sir Benfro wedi dechrau ar gyfnod newydd o dwf ar ôl prynu, gyda chymorth cefnogaeth arloesedd Llywodraeth Cymru, robot sy’n cymysgu cacennau.
Cafodd Tectonic International ei sefydlu ym 1993 i ddarparu gwasanaeth o ansawdd, wedi’i deilwra ar gyfer diwydiant. Erbyn hyn, tyfodd i fod yn arweinydd byd-eang yn y maes argraffu gyda’i gynnyrch wedi’u gosod mewn 70 o wahanol wledydd dros y byd. Ers 2006, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, llwyddodd y cwmni arwain y farchnad drwy ddatblygu gwahanol gynnyrch newydd, arweiniol, gan gynnwys system archwilio print, K3digital.
Cafodd The R&D Factory Ltd ei sefydlu gyda’r nod o elwa ar arloesi. Erbyn hyn, mae ar fin manteisio ar y farchnad blastigion fyd-eang sy’n werth $180 biliwn.
Mae busnes Cymraeg TrakCel yn adrodd eu stori. Roedd y cwmni'n enillydd yn y Medtech Launchpad yng Nghymru. Ers ennill y gystadleuaeth, mae Trakcel wedi cyhoeddi cyllid a chydweithredu pellach.
Mae Unimaq Ltd o Wrecsam yn gwmni pwysig yn y sector dylunio a datblygu offer i ‘addurno’ caniau diodydd. Yn y 5 mlynedd nesaf, mae’n gobeithio dyblu ei weithlu o 50+ o bobl a chadw ei le mewn marchnad ryngwladol sy’n werth biliynau o ddoleri.