Diurnal

Lansiwyd Diurnal fel rhith fenter i edrych ar brinder triniaethau cydol oes ar gyfer afiechydon sy’n cael eu hachosi gan ddiffyg cydbwysedd hormonau. Bellach mae ar fin cyrraedd marchnad fyd-eang gwerth dros £200miliwn y flwyddyn.

DMM International

Sut aeth DMM ati i gael cefnogaeth arloesi LlywodraethCym i ddatblygu cynnyrch newydd?

Dulas

Mae Dulas, dylunydd a gweithgynhyrchydd arweiniol systemau ynni adnewyddol o Fachynlleth, wedi trawsnewid y ffordd y gellir cadw brechlynnau achub bywydau ac yn allforio ei gynnyrch i wledydd ledled y byd yn y frwydr yn erbyn afiechydon heintus.

Electronica Products Ltd

Mae Electronica Products Ltd yn arbenigo mewn dylunio moduron a generaduron electronig. Mae hefyd yn cyflenwi rhannau electronig i gwmnïau gweithgynhyrchu pwysig ym maes awyrennau ac offer electronig pob dydd.

Epigen

Trefniant cydweithredol rhwng y byd academaidd a diwydiant yw ‘Epigen’ sy’n cynorthwyo dau gwmni o Gymru i fanteisio ar farchnad fyd eang gwerth oddeutu £50 miliwn.

Ex Veritas

Cwmni bach preifat yw Ex Veritas sy’n cynnig gwasanaeth ardystio Diogelwch (ATEX), CE a gwasanaeth ardystio ar gyfer atmosfferau ffrwydrol i gwmnïau byd eang o’r radd flaenaf. Eleni, sef trydedd flwyddyn y cwmni, mae’n disgwyl i’w drosiant gynyddu dros 50%.

Eysys

Sefydlwyd Eysys yn 2012 ym Mhontprennau, Caerdydd, i ddatblygu meddalwedd ar gyfer y diwydiant mân-werthu ar lein. Mae’u cynnyrch – Holistic- yn helpu gwefannau i deilwra’u allbwn i chwaeth defnyddwyr unigol, er mwyn dangos i gwsmeriaid y bargeinion a’r cynigion sy’n berthnasol i’w diddordebau nhw.

Haemaflow Ltd

Sefydlwyd Haemaflow yn breifat yn 2008 fel cwmni deillio o gwmni technoleg Heamair Ltd, Abertawe.

Invertek Drives

Mae Invertek Drives yn arweinydd byd-eang mewn dylunio a chynhyrchu gyriannau cyflymder newidiol a ddefnyddir i reoli cyflymder moduron trydan cymwysiadau mewn systemau cludo, gwresogi, awyru, pwmpio a systemau eraill.