Mae Reefshotz yn fenter fasnachol a sefydlwyd gan bobl â diddordeb amatur yn y môr, i edrych ar y prinder bwyd pysgod byw o ansawdd. Mae ar fin cyrraedd marchnad gwerth tua £400miliwn yn y DU.
Mae Riskmonitor, ymgynghoriaeth cydymffurfiad statudol sy’n â’i bencadlys yn Llantrisant, ar fin ymestyn ei wasanaethau’n fyd-eang, diolch i ailddatblygu ei raglen rheoli risg.
Drwy ddatblygu Oerydd Ailgylchredeg Nwyon Gwacáu llwyddodd cwmni peirianneg o Grymlyn, gyda help cefnogaeth arloesedd Llywodraeth Cymru, i gadw gwaith a swyddi yng ngwledydd Prydain.
Mae Simulity Labs Limited yn darparu datrysiadau Cerdyn Clyfar i’r diwylliant telathrebu di-wifr ar bob cyfandir, marchnad fyd-eang sy’n werth £4biliwn.
Diben Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) yw cysylltu syniadau arloesol mewn diwydiant â phroblemau yn y sector cyhoeddus
Lansiwyd Spectrum Technologies PLC yn 1989 ac mae’n arwain y byd ym maes dulliau o farcio gwifrau gan ddefnyddio laser. Cafodd ei lansio fel is-gwmni wedi i British Aerospace (BAE Systems) lunio’r ddyfais uwch-fioled cyntaf erioed ar gyfer marcio gwifrau.