Allied Aerosystems

Sefydlwyd Allied Aerosystems ym 1998 i brofi a graddnodi cynnyrch peirianneg sy’n cael eu defnyddio’n bennaf yn y sector awyrofod. Roedd cefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac arian yr Undeb Ewropeaidd yn gefn iddo, wedi galluogi’r cwmni o Drefforest i fuddsoddi’n strategol mewn peiriannau newydd a, thrwy hynny, dreiddio i farchnadoedd newydd, agor ffatri newydd yn Ffynnon Taf a chyflogi rhagor o staff.