Fel partner ym mhrosiect COHES3ION bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal ymweliadau rhithwir â rhanbarthau partner – y cyrchfan nesaf fydd Rhanbarth Deheuol Iwerddon. Cynhelir yr ymweliad hon ar 15 Hydref a bydd yn rhan o agenda wythnos digwyddiadau dinasoedd a rhanbarthau yr UE. Bydd partneriaid yn clywed am rai o’r arferion gweithio da sy’n cael eu defnyddio ledled y rhanbarth.