Yuhua Li
Mae Yuhua yn uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Cyfrifiadurol a Gwybodeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn arwain y Grŵp Ymchwil mewn Dadansoddi Data a Dysgu Peirianyddol.
Mae Yuhua wedi gweithio mewn pum prifysgol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon ac yn awr, yng Nghymru. Mae wedi cynnal gwaith ymchwil sylfaenol a chymwysedig i ddeallusrwydd artiffisial ers 2000 gan gyhoeddi gwaith o ansawdd uchel am ddeallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol a gwyddor data. Yn ôl tîm o dan arweiniad Stanford University, mae ymhlith y 2% o brif wyddonwyr y byd ym maes deallusrwydd artiffisial.
Mae Yuhua wedi cymhwyso DA a dysgu peirianyddol i ateb problemau arloesi diwydiannol ym maes cyllid, peirianneg a gweithgynhyrchu. Mae wedi arwain a chynnal prosiectau ymchwil a datblygu ar gyfer llywodraeth a diwydiant, gan gynnwys prosiectau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth i Innovate UK.