Stephanie Moran 

 

Mae Stephanie yn Bartner Cyswllt yn Etic Lab LLP, ymgynghoriaeth ymchwil a dylunio yn y Drenewydd, Powys. Mae'n cyfrannu at brosiectau amrywiol gan Etic Lab sy'n golygu gweithio gyda phartneriaid ar draws diwydiant, y trydydd sector a phrifysgolion.

Mae Stephanie yn arwain timau dylunio cynnyrch a thimau busnes newydd Kuva Ltd, sy'n deillio o gwmni preifatrwydd digidol gan Etic Lab y mae'n aelod o’i fwrdd.

Cyn ymuno ag Etic Lab, roedd Stephanie yn Llyfrgellydd ac yn weithiwr proffesiynol yn y celfyddydau, gyda thros ddegawd o brofiad o reoli prosiectau celfyddydol ac arwain sefydliadau celf. Yn fwyaf diweddar, bu'n rheoli llyfrgell ac archif Sefydliad Portffolio Cenedlaethol Cyngor y Celfyddydau sef Iniva (Sefydliad y Celfyddydau Gweledol Rhyngwladol).

Cwblhaodd Stephanie MFA mewn Celfyddyd Gain yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain yn 2014. Ar hyn o bryd mae'n ysgrifennu ei PhD trawsddisgyblaethol a ariennir gan yr AHRC gyda grŵp Ymchwil Trawsdechnoleg Prifysgol Plymouth.