Hoffech chi ymuno â chynrychiolwyr o sefydliadau Cymreig i fynychu Cyngres y Byd IoT Solutions?
Dyddiad: 31ain Ionawr – 2il Chwefror 2023
Lleoliad: Barcelona, Gran Via Venue Hall 4
Cefnogaeth: Bydd presenoldeb yn y gynhadledd, costau gwesty a theithio yn cael eu had-dalu 100% gan Lywodraeth Cymru
Mae'r digwyddiad wedi sefydlu ei hun fel digwyddiad byd-eang blaenllaw ar gyfer trawsnewid diwydiant, yn seiliedig ar dechnolegau sy'n tarfu megis IoT, AI, Digital Twin, Edge Computing, AR/VR a mwy.
Bydd digwyddiad 2023 yn arddangos atebion a thechnolegau sy'n newid y sefyllfa bresennol ac sy'n tarfu ac yn trawsnewid diwydiant.
Perthnasol ar gyfer: Datblygwyr technoleg, defnyddwyr terfynol y technolegau a restrir uchod.
Yn enwedig y rhai yn y sectorau canlynol:
Gweithgynhyrchu, Gofal Iechyd, Ynni/Cyfleustodau, Adeiladau /Dinasoedd Smart, Cludiant Cysylltiedig
Dyddiad cau: Canol dydd ar 18fed Tachwedd 2022
Ar agor i: Busnesau, Sefydliadau ymchwil, sefydliadau’r Sector Cyhoeddus
Proses ymgeisio: Ceisiadau ar ebost at SmartInnovation@llyw.cymru
I lawrlwytho'r ffurflen gais, cliciwch yma.