Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfle i chi wneud cais i ymuno â dirprwyaeth o sefydliadau yng Nghymru i fynd i Cyngres y Byd IoT Solutions (IOTSWC24) yn Barcelona ar 21-23 Mai 2024
Mae IOSWC24 yn ddigwyddiad byd-eang blaenllaw ar gyfer trawsnewid diwydiant, yn seiliedig ar dechnolegau aflonyddgar fel IoT, Deallusrwydd Artiffisial, Digital Twin, Edge & Cloud Computing, Realiti Estynedig a Rhithwir a 5G. Mae presenoldeb yn rhoi mynediad at wybodaeth am arfer gorau gan arweinwyr diwydiannol a'r wybodaeth ddiweddaraf ar dechnolegau blaengar newydd ac arloesi trawsnewidiol.
Nod y ddirprwyaeth yw galluogi sefydliadau yng Nghymru i ddatblygu partneriaethau rhyngwladol strategol a ffurfio consortia gyda'r potensial i sbarduno mwy o gydweithrediad Ymchwil, Datblygu ac Arloesi. Nid yw'r digwyddiad wedi'i anelu at sefydliadau sy'n ceisio cynyddu masnach ryngwladol yn bennaf, felly nid ydym yn chwilio am geisiadau at y diben hwn.