- Lleoliad:
-
Sir Benfro
- Swm cyllido:
-
£19285.00
Disgrifiad o'r Prosiect:
Mae Partneriaeth Cyrchfan Sir Benfro yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu amrywiaeth eang iawn o wasanaethau twristiaeth i gefnogi’r sector twristiaeth yn ehangach.
Nodau ac amcanion y bartneriaeth yw:
- Cyd-weithio i gyflawni amcanion cyffredin
- Hyrwyddo Sir Benfro fel cyrchfan wyliau
- Twf parhaus y tu allan i brif fisoedd yr haf
- Gwella ansawdd
- Gwella’r amgylchedd, seilwaith ac adnoddau diwylliannol
- Gwella effeithlonrwydd a phroffidioldeb y busnes.
Mae ymwneud diweddar â’r sector wedi dangos bod angen datblygu Cynllun Rheoli Cyrchfan Sir Benfro o’i gam cyntaf, cynnar, drafft, cyfredol i strategaeth wedi ei chyhoeddi’n broffesiynol sy’n dangos ymrwymiad yr holl sector. Gwaith canolog fyddai hwn – yn cael ei gyflawni’r un pryd â’r astudiaeth dichonolrwydd, ar y sail bod y gwaith ymgysylltu rydym eisoes wedi ei wneud wedi dangos yn glir fod yna ymrwymiad i ddatblygu sefydliad twristiaeth sengl.
Canlyniadau'r Prosiect:
Nod y Prosiect oedd datblygu Cynllun Rheoli Cyrchfannau Newydd Sir Benfro ac astudiaeth ddichonoldeb a chynllun gweithredu ar greu sefydliad twristiaeth newydd. Yn ogystal â gweithgarwch marchnata cyrchfan, nod y Prosiect hefyd oedd darparu llais strategol ar gyfer twristiaeth a darparu hyfforddiant, cyngor a chymorth i'r sector, yn ogystal â sicrhau bod cyfleoedd twristiaeth gynaliadwy yn flaenoriaeth o fewn y cynllun datblygu lleol.
Cyflawnwyd canlyniadau'r Prosiect ac mae'r astudiaeth newydd wedi'i chymeradwyo gan yr holl gyrff llywodraethu perthnasol a bydd yn cynnwys cytundeb ariannu pum mlynedd a fydd yn diogelu cyllidebau ar gyfer y cyfnod hwnnw ac felly'n osgoi'r dirywiad a ragwelir yn y cais pe na bai unrhyw gamau'n cael eu cymryd.
Dywed tîm y Prosiect wrthym fod 'y broses o ddod â'r holl sector twristiaeth at ei gilydd i gytuno ar strategaeth bum mlynedd newydd wedi cryfhau ein dull partneriaeth'. Mae Croeso Cymru wedi bod yn canmol y strategaeth newydd a'r gwaith ar greu sefydliad newydd. Maent yn fwy tebygol o ddarparu cyllid, a amlygwyd hefyd yn y cais fel mater.
"Aeth y prosiect yn ddidrafferth iawn ac roedd yn gyfle gwych i ddod â'r sector twristiaeth at ei gilydd i gytuno ar flaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Roedd y gwaith ar y sefydliad rheoli cyrchfannau yn heriol ond yn werth chweil, ac yn y pen draw dylai arwain at ganlyniadau gwell yn y sector."
Newyddion Prosiect:
Mae Cynllun Marchnata Cyrchfan Sir Benfro ar gael isod.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Mike Cavanagh
- Rhif Ffôn:
-
01437 775240
- Cyfeiriad e-bost:
- mike.cavanagh@pembrokeshire.gov.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- https://www.visitpembrokeshire.com/