Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£32000.00

1.    Cyflwyniad 

Pwrpas y prosiect oedd edrych ar y potensial o gael gofod amlddefnydd ym Mhowys y gellid ei ddefnyddio fel cyfleuster/canolfan i ddysgu Cymraeg mewn ffordd ddwys yn hytrach na gorfod mynd i Nant Gwrtheyrn ger Pwllheli gan fod y gost yn uchel. Cafodd V4 eu contractio i gynnal astudiaeth ddichonoldeb yna cafodd Sgema eu contractio ar ôl i'r astudiaeth ddichonoldeb gael ei chwblhau i gynnal ymgysylltiad cychwynnol â'r farchnad gan ddefnyddio canfyddiadau'r astudiaeth ddichonoldeb. 

2.    Her 

Nodi safle addas na fyddai'n golygu gormod o wariant cyfalaf na buddsoddiad. Felly, dechreuwyd ar broses o ddileu rhai opsiynau 

3.    Atebion 

Nodwyd yr hen gyfleuster awyr agored/hamdden ym Mhenffordd-las fel lleoliad bosibl gan nad oes ei angen ar yr Awdurdod Lleol a’i fod yn wag. 

4.    Budd 

Dyma'r dewis cywir gan ei fod yn golygu nad oedd angen adeiladu adeilad newydd na chael gormod o fuddsoddiad ac roedd partner parod yn yr Awdurdod Lleol. 

5.    Canlyniad 

Roedd yn golygu y gallem ganolbwyntio ar astudiaeth ddichonoldeb ar un adeilad a safle a dod i gasgliadau clir ynghylch hyfywedd a defnydd posibl partneriaid fel Prifysgol Aberystwyth, yr Urdd a Say something in Welsh.com. Mae'r adroddiad gan V4 a Sgema wedi dod i'r casgliad nad oes diddordeb nac ymrwymiad sylweddol ar hyn o bryd i symud y prosiect arfaethedig ymlaen fel y mae.

Rhan o'r prosiect oedd ceisio darparu profiad dysgu dwys yn y Gymraeg, a nodwyd yr Urdd fel partner posibl. Roedd gan y mudiad ddiddordeb petrus o'r blaen, ond ar ôl archwilio ymhellach yn anffodus penderfynwyd nad ydynt am ddilyn eu diddordeb ymhellach. Cysylltwyd â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fel partner posibl, ond unwaith eto nid oedd hwn yn rhywbeth roedd ganddynt ddiddordeb ynddo.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Elwyn Vaughan
Rhif Ffôn:
01686 629487
Email project contact