Amplify: Trowch e Lan

Mae cwmni theatr lleol Mess Up The Mess (MUTM) wedi sicrhau cyllid i gynnal prosiect digwyddiadau ieuenctid creadigol o'r enw "Amplify: Trowch e Lan”.

Trwy weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Celfyddydau Pontardawe a'i grŵp Cyfeillion, bydd MUTM yn cyflwyno cyfres gynhwysfawr o weithgareddau â'r bwriad o ennyn diddordeb a recriwtio pobl ifanc leol.

Unwaith y byddant wedi ymuno, bydd pobl ifanc yn chwarae rôl allweddol wrth greu, rheoli, cyflwyno a chymryd rhan yn nigwyddiadau'r prosiect a arweinir gan bobl ifanc.

Bydd prosiect Amplify: Trowch e Lan yn cynnig cyfle i bobl ifanc gael amrywiaeth o gyfleoedd i brofi a dewis pa weithgareddau creadigol a ddarperir ar eu cyfer nhw a'u cyfoedion drwy'r prosiect, a chymryd rhan ynddynt.

Sefydlir parth technoleg galw heibio yn y Ganolfan Gelfyddydau fel lle diogel lle gall pobl ifanc gwrdd a threulio amser gyda'i gilydd a defnyddio technoleg. Dan oruchwyliaeth Gweithiwr Ieuenctid rhan-amser y prosiect, dangosir i bobl ifanc sut i gadw eu hunain yn ddiogel ar-lein a gallant gymryd rhan mewn sesiynau gydag artistiaid cyfranogol megis DJs, artistiaid graffiti a beirdd perfformio.

Mae'r Heddlu a'r Bartneriaeth Alcohol Cymunedol leol wedi dangos diddordeb yn yr agwedd hon ar y prosiect fel gweithgaredd gwrthdyniadol ac mae'r Bartneriaeth Alcohol Cymunedol wedi darparu cyllid cyfatebol tuag at gostau'r prosiect.

Cynhelir cyrsiau byr anffurfiol ar sgiliau technegol a sgiliau eraill (sain, goleuadau, cynllunio a marchnata digwyddiadau) a bydd y rhain yn rhoi'r sgiliau y mae eu hangen ar bobl ifanc i gyflwyno eu rhaglen ddigwyddiadau eu hunain a arweinir gan bobl ifanc. Caiff y sesiynau hyn eu cynnal gan weithwyr proffesiynol y diwydiant a chânt eu cefnogi gan staff y prosiect.

Er mwyn cyflwyno rhaglen ddigwyddiadau a arweinir yn wirioneddol gan bobl ifanc, caiff pobl ifanc eu recriwtio i ffurfio grŵp digwyddiadau a arweinir gan bobl ifanc. Caiff y grŵp ei gefnogi wrth iddo ymgymryd ag ymchwil, cynllunio, rheoli a hyrwyddo 6 o ddigwyddiadau ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc drwy gyfnod y prosiect.

Anogir cyfranogwyr i gael mwy o brofiad ym maes y celfyddydau creadigol trwy wirfoddoli yn y Ganolfan Gelfyddydau. Nodir cyfleoedd i wirfoddoli yng nghefn y llwyfan a rolau blaen tŷ a chaiff y rhain eu hyrwyddo i gyfranogwyr.

Sefydlir Fforwm Ieuenctid ar gyfer Canolfan Celfyddydau Pontardawe a gynhelir mewn partneriaeth â Chyfeillion y grŵp. Bydd y fforwm yn darparu modd parhaol i bobl ifanc fod yn rhan o'r broses gwneud penderfyniadau ac yn darparu ffordd y gall pobl ifanc gefnogi'r ganolfan drwyddi.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£44,895
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2
Amplify: Trowch e Lan Mess Up The Mess (MUTM)

Cyswllt:

Enw:
Sarah Jones
Rhif Ffôn:
(01269) 591167
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://messupthemess.co.uk/
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts