Astudiaeth Dichonoldeb Castell Rhuthun

Mae Castell Rhuthun o dan fygythiad difrifol. Mae'r castell angen cadwraeth ar fyrder i atal rhagor o ddirywiad ac mae'r Ymddiriedolaeth yn anelu at sicrhau bod cadwraeth parhaus o'r safle hwn, gan gydweithio gyda phartneriaid y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i wneud Castell Rhuthun yn lleoliad pwysig i bobl y Gogledd, gan greu gwaith, cyfleoedd i hyfforddi a gwirfoddoli yn ogystal bod yn hwb sylweddol i dwristiaeth treftadaeth a diwylliannol Rhuthun a'r Gogledd, gan ddenu ymwelwyr addysgiadol ac academaidd a thwristiaid o bob rhan o'r wlad drwy gydol y flwyddyn. Yn gyntaf, fodd bynnag, mae'n rhaid inni sicrhau bod ein cynlluniau yn ymarferol ac yn gynaliadwy trwy gynnal astudiaeth ddichonoldeb annibynnol i gynnig gwerthusiad ysgrifenedig cynhwysfawr o'r problemau a'r cyfleoedd, asesu'r opsiynau a'r risgiau a gwneud argymhellion ar y camau nesaf y mae angen i'r Ymddiriedolaeth eu cymryd i sicrhau bod y prosiect yn llwyddiannus, ac i ddiogelu'r castell, y gerddi a'r tir o amgylch  yn barhao ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£12,182
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Ddinbych
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Sarah Jones
Rhif Ffôn:
01490 340500
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.cadwynclwyd.co.uk

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts