Nod Beacon Illume yw dangos darluniau syn portreadu bywyd cymunedol, enaid a chymeriad Sir Frycheiniog yn adeilad newydd y Gaer. Byddwn yn gwneud hyn trwy ddulliau arloesol gan ddefnyddio delweddau llonydd a symudol. Byddwn yn taflu goleuni ar amgylchedd ffisegol, tirwedd, cymunedau ar gweithgareddau syn digwydd yn Sir Frycheiniog trwy ddal delweddau a chyflwyniadau. Fe ddown r gorau or hyn sydd y tu allan a thu hwnt ir Gaer i mewn ir ganolfan. Bydd hyn yn amlygu cyfoeth lleoliadau syfrdanol, diwylliant ac amrywiaeth y fro.
Bydd delweddau gweledol cryf yn darlunio bywyd Sir Frycheiniog iw defnyddio wrth hyrwyddor rhanbarth i ymwelwyr. Bydd yn dathlu mamwlad pobl leol a rhoi gwybodaeth ir cyhoedd trwy ganolfan y Gaer ac ar-lein. Bwriadwn benodi grp bach o arlunwyr proffesiynol lleol syn byw neun gweithio ym Mhowys, boed yn ffoto
graffwyr, pobl syn gwneud ffilmiau ac animeiddwyr. Byddant yn gweithio gyda grp o o leiaf wyth o bobl ifanc leol a chanddynt ddiddordeb mewn gwneud delweddau neu ddawn yn y grefft. Bydd y bobl ifanc yn ffurfio Tm Gwneud Delweddau a byddwn yn eu recriwtio ar raglen a arweinir gan arlunwyr proffesiynol.
Bydd y rhaglen yn cynnwys hyfforddiant a gweithgareddau datblygu sgiliau cynhyrchu. Bydd Illume hefyd yn cynnwys gweithdai, teithiau maes, sesiynau stiwdio a dosbarthiadau meistr yn y meysydd canlynol: agweddau technegol, dylunio a chyfansoddi, golygu, trin delweddaun ddeheuig, technegau animeiddio a chyflwyno. Ffrwyth y rhaglen fydd portffolio o ddelweddau ffotograffig llonydd, ffilm ddigidol, animeiddiadau, pytiau o ffilmiau treigl amser a symudiad araf gan ddefnyddio pecynnau golygu fel After Effects.
Byddwn yn dangos y ffilmiau ac arddangos y gwaith celfyddyd yng nghyntedd cyhoeddus y Gaer a thu allan ir adeilad o bryd iw gilydd. O ganlyniad bydd ymwelwyr r ardal yn gallu eu gweld a hefyd pobl syn defnyddio cyfleusteraur Gaer. Bydd y celfwaith yn cael ei gysylltu gwybodaeth am weithgareddau, lleoedd, digwyddiadau a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal. Hefyd bydd y gwaith yn darlunio pobl, eu ffordd o fyw, tirlun, y ddaearyddiaeth leol, yr awyr ar tywydd syn nodweddiadol o Fannau Brycheiniog. Bydd dirnad yr agweddau hyn yn creu elfen gref o ymgysylltu r gymuned gan gynnwys pobl, grwpiau, lleoliadau a busnesau lleol.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£78000.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Powys
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 3
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Lucy Bevan
- Rhif Ffôn:
-
01597 827378
- Cyfeiriad e-bost:
- rdp@powys.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts