Cardiau Post a Phodlediadau

Amcan y prosiect Cardiau Post a Phodlediadau, sy’n cyfuno’r hynafol a’r modern, yw cysylltu pobl ifanc âu cymuned au treftadaeth. Byddwn yn darparu hyfforddiant mewn technolegau digidol, ffotograffiaeth a ffilm, yn hyrwyddo ein treftadaeth ac yn rhoi’r sgiliau a’r portffolios proffesiynol i bobl ifanc i sefydlu menter newydd ac ysgogi twristiaeth. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i sefydlu prosiect hedyn blwyddyn o hyd, syn rhan o gysyniad prosiect ehangach a gefnogir gan amrywiaeth amrywiol o sefydliadau lleol. Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i redeg blwyddyn gyntaf ein prosiect Cardiau Post a Phodlediadau i greu gwaith newydd i bobl ifanc yn ein hardal sydd hefyd yn bwydor diwydiant treftadaeth a thwristiaeth yr ydym yn dibynnu arno. Yn y flwyddyn gyntaf byddwn yn canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau â sefydliadau treftadaeth a phartneriaid eraill, gan greu fforwm i ddatblygu gweledigaeth a rennir, datblygu sgiliau digidol a dechrau adeiladu presenoldeb ar-lein byd-eang ar gyfer ein hardal. Bydd y cyllid yn cefnogi un person ifanc i gael swydd ran amser fel Cydlynydd Treftadaeth ar gyfer ein hardal a fydd yn gweithio gyda hyd at 30 o fudiadau treftadaeth lleol syn cefnogi neu sydd â diddordeb yn ein prosiect. Bydd hefyd yn ariannu 3 o bobl ifanc i weithio fel Llysgenhadon Treftadaeth i weithio rhan amser yn uniongyrchol gydar sefydliadau hyn.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£29,688
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2
Postcards & Podcasts

Cyswllt:

Enw:
Sue Lines
Rhif Ffôn:
01646 680068
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.tanyardyouthproject.co.uk/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts