CBC Muddy Care

Rhaglen adferiad addysgol dyfeisgar a chymuned gydol oes sy’n cefnogi pobl o oedran gweithio (18-65) sydd â chyflyrau cronig yw Cwmni Buddiant Cymunedol (CBC) Muddy Care. Mae’n cynnig pecynnau cefnogaeth a strategaethau o ran y chwe elfen o fewn iechyd a lles holistig i gyd gan alluogi pobl i reoli eu cyflyrau cronig yn fwy effeithiol ac yn annibynnol, a meithrin cymuned i helpu cefnogi’r rheini sydd â chyflyrau cronig trwy amrywiaeth o gyfryngau.  

Cafodd CBC Muddy Care ei ddylunio a’i ysgrifennu gan Claire Lowell, y Prif Swyddog Gweithredu, sy’n athletwraig Prydain Fawr sydd wedi ymddeol ac yn athrawes ac addysgwraig broffesiynol yn yr awyr agored erbyn hyn, a ddaeth yn ddifrifol wael yn 2011 ac unwaith eto yn 2014 gyda feirws oedd yn niweidio organau hanfodol. O ganlyniad i hynny, mae ganddi nifer o gyflyrau cronig arwyddocaol. Ers 2011, mae Claire wedi ymchwilio iechyd a lles holistig ac yn 2015, dechreuodd ysgrifennu rhaglen adferiad addysgol yn yr awyr agored i bobl sy’n canfod eu bywydau wedi’u troi wyneb i waered gan eu cyflyrau cronig.

Mae Claire yn derbyn gofal meddygol neilltuol oddi wrth ysbytai Prifysgol Cymru ond nid oedd gwasanaethau adferiad i rywun gyda’i chyflyrau yn bodoli tan y ffurfiwyd Muddy Care.  Daeth CBC Muddy Care i fodolaeth ym mis Ebrill 2019 ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth. 

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Muddy Care yn amlygu mai dim ond cyflyrau cronig yr ymennydd, asgwrn cefn a rhai cyflyrau cardiaidd y mae gwasanaethau adferiad yn eu cefnogi yn bennaf. Mae gwasanaethau i reoli poen, ond mae’r gwasanaethau hyn yn amrywio o sir i sir o ran yr hyn y gallant ei gynnig. Os nad yw eich cyflwr cronig yn dod o fewn y categorïau hyn (sef y sefyllfa i nifer o filoedd o bobl sydd â chyflyrau cronig yng Nghymru), does dim o ran gwasanaethau adferiad i’r bobl hynny. Nid yw arian y GIG wedi’i gomisiynu ar gyfer y grŵp hwn o bobl a dyma lle y daeth sefydliadau trydydd parti megis CBC Muddy Care yn allweddol bwysig, yn yr un modd â mentrau ariannu megis y Rhaglen Arwain LEADER. 

Mae’r Rhaglen Arwain LEADER wedi cefnogi’r cwmni buddiant cymunedol o’r cychwyn ac wedi cyflwyno 80% o’r nawdd ar gyfer y rhaglen beilot fechan ar adferiad tymor hir (LTMPRP).  Mae Muddy Care yn fythol ddiolchgar am ymddiriedaeth, cred a chefnogaeth ariannol Arwain o ran eu gweledigaeth, ethos, dyfeisgarwch ac amcan, i gefnogi grŵp o bobl sydd wedi cael eu hesgeuluso am flynyddoedd. Ac i’r rheini sy’n dod o fewn y categori hwn mewn ardaloedd gwledig, mae eu hymchwil yn awgrymu fod yr esgeulustod hwn yn fwy, hyd yn oed. Mae’r erthygl hon yn sôn am sut mae Muddy Care wedi addasu ac ymateb fel cwmni buddiant cymunedol gwledig yn ystod COVID-19. 

Lleolir Muddy Care yn ne Powys. Ar hyn o bryd, mae eu rhaglen beilot fechan ar addysgu adferiad tymor hir yn yr awyr agored yn cael ei threialu gyda chanlyniadau rhyfeddol ymysg y cyfranogwyr. Fe gyflwynir y rhaglen yn llwyr yn yr awyr agored mewn mannau naturiol gwyrdd a glas, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau gweithgareddau awyr agored i hyrwyddo dysgu amrywiaeth o themâu sy’n benodol i gyflyrau cronig. Athrawon ac addysgwyr awyr agored proffesiynol sydd wedi dylunio, cyflwyno a rheoli’r rhaglen adferiad addysgol awyr agored ac mae Claire yn un ohonynt. Mae’r holl themâu addysgol yn gysylltiedig â maes iechyd a lles holistig. 

I wybod beth mae Muddy Care wedi’i wneud i gefnogi cyfranogwyr yn ystod coronafeirws, edrychwch yma.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£64,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Powys
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Louise Nicholson
Rhif Ffôn:
01597827378
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts