pobl ar y bont dros ddŵr

Muddy Care yn Wynebu ac yn mynd i’r afael â Heriau COVID 

Mae Cwmni Buddiant Cymunedol (CBC) Muddy Care wedi ymateb gyda gofal a meddylgarwch yn ystod COVID-19. Am ragor o fanylion ar y prosiect Muddy Care.

Pan arweiniodd COVID-19 at ohirio’r rhaglen adferiad awyr agored dros dro, ymatebodd Muddy Care gyda chreadigrwydd a dyfeisgarwch. Mae cyflyrau cronig sylweddol gan yr holl gyfranogwyr ar raglen beilot fechan Muddy Care ar addysgu adferiad tymor hir yn yr awyr agored (LTMPRP) – daw rhai ohonynt o fewn y categori gwarchod, mae rhai ohonynt yn byw ar ben eu hunain ac mae rhai ohonynt wedi cael amseroedd heriol iawn ar brydiau oherwydd eu cyflyrau cronig.  

ceo muddy care

Dechreuwyd system wirio ddyddiol (yn weithredol saith diwrnod yr wythnos) ar gyfer yr holl gyfranogwyr ar y rhaglen gan Claire Lovell, Prif Swyddog Gweithredu Muddy Care, ynghyd â system gefnogi i’r staff.

Mae cael cyflwr/cyflyrau cronig yn gofyn am reolaeth ddyddiol ac yn cynnwys cyfnodau heriol iawn ar brydiau er gwaethaf COVID. Roedd y Prif Swyddog Gweithredu yn gwybod y byddai cymuned Muddy Care angen system gefnogi o bell ar waith tan y byddai pethau yn sefydlogi. Aethant o weithredu pum diwrnod yr wythnos i saith diwrnod yr wythnos o’r 11 Mawrth 2020 tan 17 Gorffennaf 2020, am 128 diwrnod yn barhaus. 
Daeth y system wirio yn fwy fwy pwysig: 

 


(a)    pan ddatblygodd rhai cyfranogwyr COVID 
(b)    pan gafodd apwyntiadau ysbyty’r cyfranogwyr eu canslo 
(c)    pan ddigwyddodd apwyntiadau ysbyty’r cyfranogwyr 
(d)    pan gafodd gwasanaethau cefnogi iechyd meddwl y cyfranogwyr eu gostwng neu wrth iddynt gael eu trosglwyddo i apwyntiadau o bell 
(e)    a phan yr oedd effeithiau cyfnod clo mawr COVID yn rhoi straen sylweddol ar rai cyfranogwyr 

Cynhaliwyd gweithdrefnau a phrotocolau ychwanegol unigol gan staff ar gyfer y cyfranogwyr hynny a amlygwyd fel statws melyn neu goch, oedd yn golygu eu bod angen cefnogaeth bellach oddi wrth staff Muddy Care ac mewn rhai achosion, gofynnodd Muddy Care am gefnogaeth ac ymyrraeth ychwanegol gan sefydliadau meddygol ac iechyd allanol. Cafodd sawl statws melyn a choch eu cofnodi yn ystod y 128 diwrnod. Ar 17 Gorffennaf 2020, cafodd y rota gwirio ei ddiwygio gan y cyfranogwyr a chafodd y gefnogaeth ei gostwng, gan ymateb yn rhagweithiol i anghenion a dymuniadau’r cyfranogwyr oedd yn newid.

Mae’r system dal ar waith er ei bod mewn ffurf wahanol a llai fodd bynnag, ond mae cymuned Muddy Care yn cyfathrebu’n rhydd ac yn rheolaidd gyda’i gilydd erbyn hyn heb sesiwn wirio i symbylu sy’n foddhaol i’w weld. Ond nid dim ond y system wirio ddyddiol hon a sefydlwyd mewn ymateb i COVID-19 …  

…Roedden nhw’n edrych ar y thema ‘sut allwn ni wasanaethu’ ar yr adeg y bu’n rhaid iddynt roi’r gorau yn ffisegol i gyflwyno’r rhaglen adferiad addysgol yn yr awyr agored. Aethant ati ar unwaith i newid i ddefnyddio mecanwaith dysgu o bell a bu’r cyfranogwyr yn arwain ar y prosiect COVID-19.

Dechreuodd cyfranogwyr y rhaglen beilot fechan LTMPRP gynhyrchu blogiau fideo, blogiau, dyddiaduron, cerddi ac ysgrifau, gan gynnig cefnogaeth trwy gyfrwng pecynnau cymorth, cyngor a mecanweithiau eraill i helpu eraill sydd â chyflyrau cronig trwy’r cyfnod hwn o newid. Gofynnodd y cyfranogwyr am ddechrau sianel Youtube hefyd fel rhan o’r prosiect, sy’n gweld tyfiant yn niferoedd gwylwyr wrth iddynt gynhyrchu mwy o blogiau fideo.

Mae nifer o bobl wedi cysylltu â hwy i ddweud sut mae prosiect cyfranogiad addysgol COVID Muddy Care wedi eu helpu hwy trwy’r amseroedd rhyfedd a heriol hyn, felly mae eu gofal wedi mynd y tu hwnt i’w cymuned gyfagos ac uniongyrchol o gyfranogwyr. Mae eu prosiect Covid-19 yn darlunio’n effeithiol iawn pa mor bwysig yw hi i wasanaethu eraill, yn enwedig yn ystod cyfnodau heriol megis hyn. Bu’r prosiect hefyd yn dda i iechyd a lles y cyfranogwyr.

Trwy gyd-ddigwyddiad, mae Prifysgol Harvard wedi rhyddhau eu hymchwil COVID sy’n cefnogi’r ffaith fod  gwirfoddoli a helpu eraill wedi cael ei ganfod i fod yn un o’r ffactorau pwysicaf wrth hyrwyddo iechyd a lles da. Gellir canfod dolen i’w prosiect COVID-19 yma - https://muddycare.co.uk/muddy-covid

Beth mae COVID wedi’i olygu i Muddy Care? 

Addasu (sy’n rhywbeth y maent yn dda iawn am ei wneud), cyfnod eithriadol o brysur (mae eu llwyth gwaith wedi cynyddu’n helaeth yn ystod COVID) ac ail-strategeiddio gyda dyfeisgarwch a chreadigrwydd er mwyn ymateb i effeithiau ac anghenion COVID yn effeithiol.  Mae CBC Muddy Care wedi profi eu bod yn wydn ac y gallant ymateb yn effeithiol ac yn gyflym i sefyllfaoedd sy’n newid. Mae eu presenoldeb ar-lein yn cynyddu ac fe fydd yn rhan sylfaenol o’u cyfryngau adferiad, yn ogystal â’u rhaglenni adferiad yn yr awyr agored a’u cyfryngau cyflwyno. Maent hefyd yn edrych ar ffyrdd y gallant gefnogi pobl sydd ag effeithiau tymor hir COVID, ynghyd â’r gymuned cyflyrau cronig ehangach, dros y 2-5 mlynedd nesaf, gan na fydd COVID yn mynd ymaith yn gyflym.  Mae nhw wedi cefnogi eu cymuned hyd eithaf eu gallu, gyda’r adnoddau sydd ganddynt, ac mae eu cymuned wedi ehangu fel ag y gwnaeth eu cynllun strategol. 

Mae nhw’n annog pobl sydd â chyflwr cronig i edrych ar eu gwefan ac i beidio ag oedi i gysylltu â hwy. Mae nifer o becynnau cymorth a strategaethau ar-lein ar eu gwefan nawr o ganlyniad i COVID a all helpu’r gymuned cyflyrau cronig yng Nghymru, ble bynnag y maent yn byw. Heb gefnogaeth y Rhaglen Arwain LEADER, y loteri a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ni fyddent wedi gallu helpu i gefnogi’r sector hwn o’r gymuned trwy COVID.  

Mae eu presenoldeb wedi bod yn hanfodol i rai ac wrth iddynt symud ymlaen, maent yn rhoi cyfryngau cefnogi ac addysgol ychwanegol ar waith i helpu’r sawl sydd â chyflyrau cronig i ddelio’n fwy effeithiol ac iachus gydag effeithiau COVID, ynghyd â’r rheini sy’n canfod fod ganddynt effeithiau iechyd tymor hir yn sgil COVID. 

logo

Dolenni i wefan y prosiect a sianeli cyfryngau:
Gwefan: www.muddycare.co.uk
YouTube: www.youtube.com/channel/UCbBXUjGQN-W23dAw3Fdu3ow 
F: www.facebook.com/MuddyCareCIC/
T:  www.twitter.com/MuddyCare 
Instagram: https://www.instagram.com/muddycare/