Coastal Event Pop Ups

Nod y cynllun peilot oedd profi ymarferoldeb cynnal digwyddiadau mewn lleoliad penodol yn Arfordir Treftadaeth Morgannwg – Bae Dwnrhefn, Bay, Southerndown. Byddai’r cynllun peilot nid yn unig yn profi’r galw ymhlith ymwelwyr am y fath ddigwyddiadau, ond hefyd parodrwydd trefnwyr digwyddiadau i’w cynnal mewn lleoliad mor wledig.

Buom yn gweithio gyda trefnwyr digwyddiadau profiadol a busnesau sefydledig ar ein cynllun peilot untro ac felly roedd y grŵp o gyfranogwyr llwyddiannus eisoes yn adnabyddus am gynnal digwyddiadau o fath penodol yn ystod y peilot.  

Wedi dweud hynny, roedd yn dal yn bwysig bod y trefnwyr yn ystyried eu digwyddiadau yng nghyd-destun y lleoliad newydd a’u haddasu’n unol â hynny.

Cafodd y lleoliad a ddewisiwyd ar gyfer ein peilot ei nodi drwy’r astudiaeth o ddichonoldeb a gomisiynwyd gennym – Bae Dwnrhefn, Southerndown.

Dyma’r digwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod y peilot: Gŵyl Celf a Chrefft

  • Gweithdai Celf a Chrefft • Sinema Awyr Agored
  • Gŵyl Bwyd Araf
  • Gŵyl Fwyd/Diod a Cherddoriaeth.  

Mae Pecyn Cymorth Digwyddiad Untro bellach ar gael, yn ogystal ag adroddiad gwerthuso ar y peilot.

Trefnwyr digwyddiadau  Busnesau Arfordirol  Busnesau’r economi twristiaeth.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£15,004
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Bro Morgannwg
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2
Coastal Community Pop Up Events

Cyswllt:

Enw:
Nicola Sumner-Smith
Rhif Ffôn:
01446 704707
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/working/Rural-Communities/Attractive-Vale.aspx

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts