Coleg y Mynydd Du

Bydd y Gwerthusiad Opsiynau’n ystyried sut bydd y coleg yn gweithio o safbwynt ymarferol, y lle bydd ei angen ar gyfer adeiladau, ac i gadarnhau’r costau datblygu.

Bydd gofyn ymgysylltiad trwyadl gyda rhanddeiliaid ar gyfer y Gwerthusiad Opsiynau, a bydd gofyn i’r gymuned ddychmygu effaith a’r cyfleoedd o ran trawsnewid Talgarth yn safle dysgu. Bydd nifer o dasgau ynghlwm wrth hyn:

  1. Asesu faint o addysg y gellir ei darparu tu allan i’r ystafell ddosbarth: hynny yw, ymarfer mapio cynhwysfawr o safleoedd dysgu posib yn y gymuned - o weithdai i ffermydd, creu ynni, ymddiriedolaethau coetir, bwytai, crefftwyr ac ati.
  2. Dadansoddi pa gyfleoedd dysgu sy’n bodoli, wrth ddatblygu opsiynau safle penodol i’w defnyddio gan y coleg (prentisiaethau a sgiliau galwedigaethol).
  3. Prif gynllun ar gyfer cymuned Talgarth i ystyried y seilwaith, cysylltiadau, a gwasanaethau presennol a sut gall y coleg weddu i a chyfoethogi’r ddarpariaeth sydd eisoes yn bodoli.
  4. Cymhariaeth o ran cost/buddion yr opsiynau safle gwahanol o ran y cyfleusterau dysgu sydd eu hangen ochr yn ochr â gofod ar gyfer staff gweinyddu a swyddfeydd.
  5. Adroddiad ar yr holl agweddau uchod.

Bydd y gwaith cwmpasu’n gyfle ac yn llwyfan i dynnu ynghyd profiadau, adnoddau a doniau’r ardal gyda’r potensial i adeiladu rhywbeth o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol.

 

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£53352.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Powys
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2
Black Mountains College

Cyswllt:

Enw:
Louise Nicholson
Rhif Ffôn:
01597 827 378
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts