Cyngor Tref Cwmaman

Mae Cyngor y Dref yn y broses o gael 5 o asedau, trwy drosglwyddo asedau o’r Awdurdod Lleol.  Bydd y prosiect yn cynnwys astudiaeth ddichonolrwydd, i nodi y ffordd orau i Gyngor y Dref ddefnyddio’r asedau. Y bwriad yw i’r asedau helpu gydag addysg a sgiliau, cefnogi teuluoedd a’r oedrannus, datblygu busnesau a chyflogadwyedd, a chysylltiadau cymdeithasol a llesiant o fewn eu cymuned.  Bydd y prosiect yn golygu cysylltiad sylweddol â’r gymuned o’r cychwyn cyntaf, gan roi cyfle i breswylwyr nodi anghenion allweddol y gymuned.  Bydd y prosiect hefyd yn dilyn yr egwyddor o ddefnyddio galluoedd y gymuned, ble bynnag y bo’n bosibl.   Y canlyniad fydd creu astudiaeth ddichonoldeb, gan amlinellu sut y gellir defnyddio’r asedau i fodloni anghenion y gymuned.  Bydd y prosiect hefyd yn darparu rhagor o gyfleoedd i wirfoddolwyr, a mwy o alluoedd i’r gymuned, trwy drafod a hyfforddi.  Trigolion ardal Cwmaman fydd y rhai fydd yn elwa’n bennaf o’r prosiect.  Bydd y 4 maes gwelliant fydd y prosiect yn canolbwyntio arnynt o fudd uniongyrchol i’r gymuned.
 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£7819.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Gaerfyrddin
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Dean Ellis
Rhif Ffôn:
01267 242494
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.eft.cymru

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts