Darpariaeth Gofal Dydd Gwell

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn wynebu gostyngiad sylweddol mewn adnoddau tra bod y galw am eu gwasanaethau yn cynyddu, felly maer ALl yn cydweithio fwyfwy gyda chymunedau i ddarparu gwasanaethau ar eu rhan. Bydd y model arbennig hwn yn edrych ar wellar ddarpariaeth gofal dydd sydd ar gael i unigolion ag anghenion gofal lefel isel ar Ynys Mn. Fel y nodwyd uchod, dim ond mewn cartrefi preswyl y maer gwasanaeth gofal dydd ar gael ar hyn o bryd, nad ywn briodol i unigolion ag anghenion gofal lefel isel. Bydd y cynllun peilot penodol hwn yn cyfuno Gweithgareddau Age Well Hwyliog Mn gyda darparwr gofal dydd gwasanaeth personol dwy-rl. Bydd y darparwr gofal dydd cymwysedig yn gallu gwirio pwysedd gwaed defnyddwyr y gwasanaeth, lefelau siwgr, yn ogystal chymorth gyda symudedd, gwiriadau iechyd cyffredinol a chymorth gyda thoiled neu fwyta, ar y diwrnod. Gan gyfuno hyn gydar ystod o weithgareddau a gynigir gan Age Well, maen ei wneud y brosiect cyntaf oi fath ledled Cymru. Monitro - Bydd y grp yn monitro nifer y defnyddwyr newydd, demograffeg defnyddwyr, atgyfeiriadau at feddygon teulu (cynyddu a lleihau) yn ogystal monitro atgyfeiriadau at wasanaethau eraill megis ffisiotherapi, trin traed ayb.

Bydd y Peilot hwn yn cefnogi 10 unigolyn, dros gyfnod o 1 diwrnod yr wythnos am 6 mis yn nalgylch Amlwch. Ardal - dynodwyd Amlwch fel y lleoliad gorau ar gyfer y cynllun peilot hwn gan ei fod wedi ei adnabod gan yr Awdurdod Lleol fel ardal darged yn eu Strategaeth ar gyfer Pobl Hn. Nodwyd hefyd bod Amlwch hefyd yn ardal amddifad, gyda nifer uwch o afiechydon cronig cofnodedig, a phoblogaeth syn heneiddio. Hyrwyddo/ Rhannu Gwybodaeth - Bydd y prosiect yn anelu at weithio gyda 10 unigolyn, felly bydd nifer fechan o daflennin cael eu creu ar gyfer yr adran gwasanaethau cymdeithasol; or adran hon y dawr rhan fwyaf or atgyfeiriadau. Os ywr cynllun peilot yn llwyddiannus, maen debygol o ddenu sylw gan gymunedau eraill ar cyfryngau, felly bydd y gwersi a ddysgir yn cael eu rhannu trwy gyfryngau cymdeithasol, grwpiau ffocws, CSYM a gwefannau partner.

 

 

 

 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£4,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ynys Môn
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Bethan Fraser-Williams
Rhif Ffôn:
01248 725741
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts