Data Gwynedd

Bydd y prosiect yn dangos:

  1. Gellir casglu data trwy seilwaith digidol cymunedol e.e. wifi cymunedol, TVWS
  2. Gall cymunedau ddefnyddio data a gesglir trwy seilwaith digidol i rannu gwybodaeth â rhanddeiliaid, cwsmeriaid a grwpiau eraill.

Mae Cyngor Gwynedd wrthi'n gosod wifi cymunedol mewn 10 cymuned a fydd yn darparu mynediad i'r cyhoedd i wifi am ddim. Bydd hyn yn ychwanegol at gymunedau sydd eisoes wedi gosod y dechnoleg e.e. Caernarfon ac Aberdaron.  Mae AGW hefyd wedi comisiynu ymarferoldeb i osod ateb wifi/ band eang o gwmpas Yr Wyddfa. Bydd y rhain yn darparu gwasanaeth pwysig i'r cyhoedd, fodd bynnag, y potensial 'arloesi' go iawn yw harneisio a defnyddio'r data.

Gellir gosod y math o ddata a gesglir mewn dau gategori. Y rhain yw Data personol: Mae hyn yn cynnwys data y mae'r defnyddiwr yn ei ddarparu at ddiben penodol yn gyfnewid am fynediad i'r gymuned wifi e.e. i dderbyn cylchlythyr. Byddai defnyddwyr sy'n cofrestru trwy ddefnyddio cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol hefyd yn darparu gwybodaeth ychwanegol e.e. oedran, rhyw, diddordebau ayb. Byddai'n rhaid i unrhyw ddefnydd o'r data gydymffurfio â GDPR.

Data cyffredinol:  Byddai hyn yn cynnwys data ynghylch nifer y bobl mewn cyrchfan arbennig ar amser penodol. Gallai hefyd gynnwys gwybodaeth am bobl yn symud o amgylch cyrchfan benodol. Byddai'r data hwn yn cael ei gasglu trwy ffonau symudol, ond mae'n ddienw ac ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei chasglu.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£12,200
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:
Thema:
2, 5
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Rachel Roberts
Rhif Ffôn:
01766 514 057
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts