Datblygu Gwaith Haearn Mynachlog Nedd

Mae Gwaith Haearn Mynachlog Nedd yn safle unigryw o bwys byd-eang, mae'n unigryw yn ei ffordd o gynhyrchu haearn yn ei ffwrneisi chwyth enfawr ac mae'n un o'r busnesau peirianyddol mwyaf ym Mhrydain Fawr hefyd, a gynhyrchai locomotifau ar gyfer y rheilffyrdd, peiriannau morol, llongau haearn a pheiriannau ager sefydlog. Roedd y cynhyrchion hyn wedi pweru'r Chwyldro Diwydiannol, a sicrhau mai Cymru oedd y gymdeithas ddiwydiannol gyntaf.

Adroddodd CADW fod y safle mewn perygl mawr o ganlyniad i ddarnau'n disgyn o rannau uchel o'r adeilad, felly yr unig ffordd o gael mynediad at y safle yw dan oruchwyliaeth un o Gyfeillion Cwmni Haearn Mynachlog Nedd (FNAIC). Er y cyfyngiadau hyn, yn y ddwy flynedd diwethaf trawsnewidiwyd y safle'n gyfan gwbl, o fan gollwng diffaith i ardal gymunedol trwy gael gwared ar lystyfiant a oedd yn difrodi'r olion archaeolegol a symud y sbwriel anghyfreithlon. Fodd bynnag, er y trawsnewidiad hwn, oni bai y gellir sicrhau mynediad diogel, mae'n anodd gweld sut gellir cynnal potensial llawn y safle hwn.

Er bod hwn yn safle treftadaeth o bwys byd-eang, nid oes neb wedi ymchwilio iddo'n archaeolegol. Sicrhaodd FNAIC gyllid LEADER ar gyfer astudiaeth dichonoldeb er mwyn ymchwilio i warchod y safle a'i diogelu ar gyfer mynediad cyhoeddus. Comisiynwyd arolwg archaeolegol hefyd er mwyn gwella gwybodaeth y gymuned am y Gwaith Haearn hefyd.

Bydd gan y gymuned leol ac ymwelwyr â'r ardal fynediad am ddim i'r safle, er mwyn dysgu am ei hanes ac fel cyfleuster hamdden er mwyn cerdded ac ymlacio. 

  • Mae'r safle'n wastad, sy'n ei wneud yn hygyrch, yn enwedig i'r rheini ag anableddau. 
  • Bydd myfyrwyr coleg a hyfforddeion yn gallu dysgu sgiliau adeiladu treftadaeth. 
  • Bydd athrawon a disgyblion ysgol yn gallu defnyddio'r safle i ymchwilio i hanes busnesau Cymreig a'u cysylltiadau â'r byd ehangach. Gellir defnyddio'r safle mewn perthynas â phynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg). 
  • Bydd FNAIC a Gwirfoddolwyr Dyffryn Clydach yn gallu parhau i weithio ar y safle ac ymchwilio i'w dreftadaeth. 
  • Bydd gan archaeolegwyr a haneswyr fynediad at y safle ar gyfer cloddiadau. 

Yr astudiaeth dichonoldeb yw'r cam gyntaf o brosiect tymor hir a fydd yn arwain at agor canolfan treftadaeth/addysg. Fodd bynnag, oni bai y gellir cyflawni mynediad diogel heb oruchwyliaeth ni ellir cyflawni potensial llawn y safle. Comisiynwyd arolwg adeileddol o'r safle a oedd yn disgrifio cyflwr presennol yr adeiladau a chostau amcangyfrifedig y gwaith atgyweirio y mae ei angen i'w ddiogelu. Rhannwyd y gwaith yn dri chategori: ar unwaith, tymor byr a thymor hir.


Gwnaed arolwg archaeolegol o'r safle mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent. Dyma'r cloddiad a'r archwiliad archaeolegol cymunedol cyntaf ar y safle er mwyn ymchwilio i'r archaeoleg a gladdwyd sy'n gysylltiedig â'r Gwaith Haearn trwy arsylwi a chofnodi. Yr ail nod oedd hyfforddi gwirfoddolwyr lleol mewn methodoleg archaeolegol gan gynnwys cloddio a chofnodi. 

Dangosodd yr astudiaeth dichonoldeb ei fod yn bosib cadw'r safle treftadaeth hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a chadw'r olion archaeolegol ar ddyfnder bas o dan y tir sydd eisoes yn bodoli.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£29,804
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
4
Mesur:
19.2
Developing Neath Abbey Ironworks

Cyswllt:

Enw:
Peter Richards
Rhif Ffôn:
01792863316
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.facebook.com/FriendsofNeathAbbeyIronCompany/
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts