Dichonoldeb Technoleg Adnewyddadwy Integredig - Gwynt, ynni solar a storio batris

Mae Awel Aman Tawe yn ceisio datblygu gallu ynni adnewyddadwy ymhellach ar eu safle ar Fynydd y Gwrhyd, er mwyn cynyddu effeithlonrwydd y datblygiad presennol a chysylltiad â'r grid, a chynyddu potensial y genhedlaeth ynni adnewyddadwy.

Mae Awel Aman Tawe yn chwilio am ymgynghorydd a all ddarparu arbenigedd, gwybodaeth ac adnoddau na fyddent ar gael fel arall yn y grŵp cymunedol. Bydd gwybodaeth am ddatblygiadau gwynt ynddynt eu hunain ac mewn perthynas ag asedau solar PV, a bydd gwybodaeth am dechnoleg batri yn hanfodol, ynghyd â phrofiad dangosadwy o gynorthwyo gyda phrosiectau tebyg. 

Dywedwch wrthym yr hyn y bydd eich prosiect yn ei gyflawni?

Astudiaeth dichonoldeb i ystyried y darnau canlynol o waith.
1.   Sefydlu fferm solar ger y fferm wynt 4.7MW bresennol - gan rannu ei gysylltiad presennol â’r grid. Mae WPD wedi cynghori y gellir cyflawni hyn mewn dwy ffordd: 

  • Cyfyngu Allforio: Gellir gosod Cyfanswm Capasiti Cenhedlaeth hyd at 1.25 x capasiti’r cysylltiad (cyfanswm 5.875 MW) a rhoddir rheolyddion yn eu lle i sicrhau bod cyfanswm yr allforio wedi'i gyfyngu i 4.7 MW. Gallai'r solar a'r gwynt allforio ar yr un pryd (ar yr amod bod cyfanswm yr allforio wedi'i gyfyngu i 4.7 MW). 
  •  Senario naill ai/neu: Byddai mod d gosod hyd at 4.7 MW o solar ond byddai angen system gyd-gloi briodol sy'n golygu na allai'r solar a'r gwynt fyth allforio ar yr un pryd.  

2.    Estyniad fferm wynt 9MW i'r safle 4.7MW presennol.

3.    Storio batris - dymunwn fod hwn yn storio pŵer dros ben o safle'r estyniad solar neu wynt.

Pwy fydd buddiolwyr y prosiect hwn?

Pobl leol o ran amgylchedd glanach, grwpiau lleol o ffrwd incwm cynaliadwy trwy gyfranddaliadau, datblygiad economaidd, swyddi.
 

 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£27,600
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
4
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Dan McCallum
Rhif Ffôn:
01639 830870
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://awel.coop/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts