Dreigiau sy’n Ysbrydoli

Y weledigaeth yn y pen draw yw datblygu ffynnon ar ffurf draig, a cherflun addas i dref sy’n brandio ei hun fel man geni’r Llinach Duduraidd.  Dewisodd Harri Tudur ddraig goch hen frenin Prydeinig, y Brenin Cadwaladr ar ei faner, ar ei ymdaith i frwydr Bosworth.  Fe’i cyhoeddwyd fel y Mab Darogan yng nghaneuon y beirdd fel y Cymro a fyddai’n arwain ei bobl o orthrwm ac yn cipio gorsedd Lloegr. 

Os bydd y prosiect hwn yn llwyddiannus, bydd y cerflun o Frenin Harri Tudur (Harri VII (a saif ar Bont y Felin) yn edrych i lawr dros bwll y felin i weld draig Cymru’n codi eto. Ers cryn amser, mae’r syniad o ffynnon i awyru’r dŵr wedi cael ei wyntyllu oherwydd ansawdd gwael dŵr pwll y felin. Mae’r cysyniad o’r ffynnon wedi bod yn gatalydd i lawer o syniadau sy’n cynnwys treftadaeth, celf a chynllunio, gwyddoniaeth a thechnoleg ac addysg STEM. Nod prosiect Dreigiau sy’n Ysbrydoli yw clymu’r holl elfennau hyn at ei gilydd mewn prosiect cyffrous, arloesol.

Nod y prosiect yw i:
 
1.    Gyflawni astudiaeth gwmpasu i adeiladu’r ffynnon
2.    Edrych ar y cynllun a’r dechnoleg o ran ei waith a’i adeiladwaith 
3.    Adeiladu model sy’n gweithio o’r ffynnon ddraig
4.    Cynnwys y gymuned ac ysgolion yn y cynllun a chydweithio â nhw i ddatblygu adnoddau. 

Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio ac yn datblygu prosiect addysgol STEM i hwyluso awyru pwll dŵr a wnaed gan ddyn. Byddai’n ymwneud â’r gymuned mewn gweithgaredd gydag Ysgol Gynradd Gymunedol Cil-maen i gynllunio a chreu nodwedd ddŵr mewn ymgynghoriad â thri o bobl broffesiynol. Byddant yn edrych ar feysydd allweddol fel y cynllun, y defnydd hanesyddol ac amgylcheddol o bympiau a’r rhaglen addysg y gellir ei rhannu maes o law, gydag ysgolion cynradd eraill.  

Ar ddiwedd yr astudiaeth gwmpasu, caiff y cynllun terfynol ei wireddu, ei adeiladu a chaiff problemau gosodiad eu datrys. Yna, gallwn fynd at gyllidwyr ychwanegol gan wybod yn union beth yw ein methodoleg a chostau. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£12,139
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2
Inspirational Dragons

Cyswllt:

Enw:
Suzie Thomas
Rhif Ffôn:
01646 683092
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.pembroketownguide.org.uk/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts