Bydd y prosiect yn ymchwilio i'r potensial o gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ffermydd a safleoedd eraill yn Sir Gaerfyrddin. Bydd yn edrych ar nifer eang o safleoedd i ddechrau, a hynny gan ddefnyddio set o gyfyngiadau, cyn cyfyngu'r rheiny i'r rhai sydd â'r potensial mwyaf posibl, astudio eu hyfywedd yn fwy manwl a'u symud ymlaen.
Bydd y prosiect hefyd yn gweithio i hyrwyddo dealltwriaeth o ynni a phwysigrwydd ei ddefnyddio mewn modd effeithlon. Gwneir hyn trwy drefnu ymweliadau safle â'n tyrbin gwynt, ein haráe solar a'n pwyntiau gwefru batris a cheir yn Salem, ynghyd ag ymweld ag ysgolion, cyd-weithwyr, busnesau a grwpiau eraill i siarad am ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni a'r modd y gall pob un ohonom gymryd camau i helpu i liniaru'r newid yn yr hinsawdd.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£100,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Sir Gaerfyrddin
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 4
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Aled Nicholas
- Rhif Ffôn:
-
01267 224496
- Cyfeiriad e-bost:
- ANicholas@carmarthenshire.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts