Ieuenctid Garw

Nododd ymgynghoriad cymunedol yng Nghwm Garw yr angen am wasanaethau ieuenctid wedi’u targedu mewn ardal o amddifadedd, heb unrhyw ddarpariaeth ieuenctid, a chyfleoedd cyflogaeth, seilwaith a thrafnidiaeth gyhoeddus gwael. 

Yn dilyn hynny, aeth elusen leol ati i sefydlu clwb ieuenctid iau ar gyfer plant 7-11 oed gyda tharged o 30 o aelodau cyn llwyddo i ddenu dros 200 mewn blwyddyn. Oherwydd y llwyddiant hwn, nodwyd yr angen am ddilyniant ar y ddarpariaeth ar gyfer 12 – 17 oed, a gofynnodd yr elusen i Reach gynnal prosiect Hyb Ieuenctid peilot. Cynhaliwyd ymgynghoriad â'r grŵp oedran targed hwn gan nodi'r ddarpariaeth ganlynol - 

  • Lleoliad diogel addas i bobl ifanc 13-17 oed gyfarfod a chymdeithasu mewn amgylchedd dan oruchwyliaeth
  • Darparu dull ffurfiol ac anffurfiol o hyfforddi a gwella sgiliau
  • Darparu cymorth a gwybodaeth drwy sefydliadau rhanddeiliaid perthnasol
  • Darparu hyfforddiant arweinyddiaeth chwaraeon a chwaraeon

Nodwyd lleoliad ar gyfer y prosiect peilot, sef clwb cymdeithasol lleol sy'n cael ei ddefnyddio'n unswydd gan y prosiect ar nosweithiau Llun. Does dim alcohol ar werth, ond mae cyfleusterau gan gynnwys byrddau pŵl etc ar gael. Cefnogir y prosiect gan Wasanaethau Ieuenctid Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr sy'n cyflenwi dau weithiwr ieuenctid sy'n eu galluogi i adeiladu ar y gwaith maen nhw eisoes yn ei wneud mewn ysgolion mewn ffordd fwy anffurfiol. 

Mae ystod eang o weithgareddau a chymorth ar gael yn yr Hyb gan randdeiliaid perthnasol – alcohol a chyffuriau, iechyd, iechyd meddwl, hawliau plant, hunanhyder, rheoli dicter etc. Darperir ystod eang o hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol mewn hylendid bwyd, lletygarwch, siarad cyhoeddus, drama, arweinyddiaeth dawns, arweinyddiaeth ieuenctid, ymwybyddiaeth o'r Gymraeg etc. Mae ystod o randdeiliaid gan gynnwys yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, yr RNLI yn cynnal gweithgareddau ymarferol fel effeithiau damwain car, achub bywyd etc. Cynhelir hyfforddiant mewn arweinyddiaeth chwaraeon ar noson wahanol yn y ganolfan hamdden leol.

Nod y prosiect yw dod yn gynaliadwy wedi'r cyfnod peilot, trwy becyn tanysgrifio fforddiadwy a cheisiadau grant. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£56,217
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2
19.3

Cyswllt:

Enw:
Sandra Lopes
Rhif Ffôn:
01656815080
Email project contact
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts