Busnes gwneud caws yn Sir Benfro sy’n defnyddio llaeth defaid yw Defaid Dolwerdd.
Maen nhw wedi datblygu sawl math o gaws gyda chymorth Canolfan Bwyd Cymru yn Horeb.
Y cam nesaf yw symud i’w huned eu hunain yn Horeb lle bydd angen prynu eu hoffer gwneud caws eu hunain.
Mae’r prosiect felly’n golygu prynu pasteureiddydd ynghyd â mowldiau caws, raciau caws, peiriant pacio dan wactod a pheiriant hufen iâ.
Trwy’r prosiect, bydd y busnes yn gallu prosesu rhagor o laeth a gwneud llawer mwy o gaws ar sail lawer mwy hyblyg.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£10,819
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd
- Ardal:
-
Sir Benfro
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Wendy Jenkins
- Cyfeiriad e-bost:
- wendy@carawales.co.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts