O ganlyniad i bandemig COVID-19 mae llawer mwy o ddibyniaeth ar gysylltedd digidol wrth i fwy o bobl weithio gartref a chael mynediad at wasanaethau ar-lein eraill. Fodd bynnag, mae rhai eiddo yng Ngheredigion heb fynediad at fand eang cyflym a dibynadwy.
Er mwyn helpu'r rhai sydd fwyaf angen cysylltiad band eang mwy dibynadwy yn ystod y sefyllfa bresennol, mae Cyngor Sir Ceredigion, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, yn treialu darparu llwybryddion 4G. Gellir defnyddio'r llwybryddion y tu mewn, neu'r tu allan, ar gyfer ardaloedd sydd â chryfder signal gwael, a gellir eu defnyddio'n gymharol gyflym.
Fel rhan o'r treial hwn mae gan Gyngor Sir Ceredigion fynediad at sawl llwybrydd, yn dibynnu ar yr angen, ar gyfer unigolion ac eiddo addas y gellir eu hadnabod. Bydd yr offer ‘ar fenthyg’ am dri mis cychwynnol ac yn cael ei ddychwelyd ar ôl i’r unigolion ddychwelyd i’w gweithle arferol.
Yn dilyn y prosiect hwn, bydd gwerthusiad o effeithiolrwydd llwybryddion 4G yn cael ei gwblhau a bydd penderfyniad yn cael ei wneud i gynnal ymyrraeth debyg ar raddfa fwy. Teimlir y bydd y prosiect yn werthfawr i'r Cyngor wrth benderfynu a ellir defnyddio technoleg o'r fath fel dewis arall ar gyfer yr adeiladau hynny nad ydynt yn derbyn cyflymderau band eang cyflym ar hyn o bryd a lle nad yw'n bosibl gosod ffibr wrth ddarparu Band Eang Superfast.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£329
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Ceredigion
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 5
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Meleri Richards
- Rhif Ffôn:
-
01545 570881
- Cyfeiriad e-bost:
- cynnalycardi@ceredigion.gov.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- https://www.cynnalycardi.org.uk/
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts