Tregaron Digidol

Sefydlwyd grŵp ffocws yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Tref Tregaron a Whilen y Porthmyn i symud ymlaen gydag adfywio a datblygu tref Tregaron. Nododd ymgynghoriad fod angen gwella darpariaeth gwybodaeth yn y dref, a gwella marchnata a hyrwyddo gwasanaethau, digwyddiadau, sefydliadau ac amwynderau lleol ar gyfer ymwelwyr a thrigolion. Crëwyd o hyn y prosiect Caron Digidol.

Mae’r prosiect yn anelu at prynu Bwrdd Gwybodaeth Rhyngweithiol a'i leoli ar y sgwâr yn Nhregaron er mwyn adeiladu cydlyniad yn y gymuned, meithrin treftadaeth a diwylliant ac adeiladu cymuned gryfach.

Bydd gweithgareddau’r prosiect yn cynnwys:

  • Prynu a gosod bwrdd gwybodaeth ryngweithiol
  • Penodi gwirfoddolwr i gydlynu a chasglu gwybodaeth, diweddaru'r wybodaeth a gofalu am redeg y bwrdd o ddydd i ddydd
  • Dyfeisio cronfa ddata o wybodaeth, sefydliadau ac amwynderau lleol
  • Hyfforddiant ar gyfer aelodau'r gymuned ar y feddalwedd

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£12,772
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
5
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Meleri Richards
Rhif Ffôn:
01545 570881
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.cynnalycardi.org.uk/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts