Calcoed Vets

Mae Cyswllt Ffermio wedi ychwanegu modiwl ychwanegol at ei ddarpariaeth o weithdai hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid (AH&W) sydd wedi’u hariannu’n llawn.

Bydd ‘Rheoli ffrwythlondeb y ddiadell’ yn cael ei gyflwyno ledled Cymru'r haf hwn, gan ddod â chyfanswm y pynciau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd i 18.

Gyda holl gynnwys cwrs AH&W Cyswllt Ffermio wedi’i ddatblygu ar y cyd â NADIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Genedlaethol ar gyfer Clefyd mewn Anifeiliaid) a’i gyflwyno gan bractisau milfeddygol sy’n cymryd rhan ledled Cymru, bydd y gweithdai rhyngweithiol ar gael naill ai ar ffurf gweithdai grŵp wyneb yn wyneb yn rhanbarthol (a fydd yn para hyd at dair awr), neu ar-lein. 

Esbonia Richard Kemp o Calcoed Vets yn Nhreffynnon, un o’r practisau a fydd yn darparu’r hyfforddiant, mai nod y modiwl newydd hwn yw helpu pob ffermwr defaid i wella a chynnal perfformiad a chynhyrchiant anifeiliaid. 

“Bydd pwyslais cryf yn cael ei roi ar atal clefydau ac ymwybyddiaeth ohonynt, gan gynnwys prynu i mewn a phrotocolau cwarantin.

“Byddwn hefyd yn edrych ar bwysigrwydd cadw cofnodion i asesu perfformiad mamogiaid, hyrddod ac ŵyn, ac i helpu gyda phenderfyniadau rheoli,” meddai Mr Kemp.

Bydd mynychwyr yn dysgu sut i adnabod a rheoli’r holl faterion allweddol sy’n effeithio ar ffrwythlondeb, gan gynnwys clefydau heintus, rheoli parasitiaid, ffactorau amgylcheddol a maeth, gyda chynllunio iechyd, bioddiogelwch a defnydd cyfrifol o wrthfiotigau ac anthelmintigau hefyd yn rhan annatod o bob gweithdy. 

“Rydym am i ffermwyr ddeall y goblygiadau economaidd difrifol yn ymwneud â bridio a ffrwythlondeb, o ran canrannau ŵyna, ac yn y pen draw, yr ŵyn a gaiff eu gwerthu. 

“Hoffem weld mwy o ffermwyr yn asesu hyrddod chwech i wyth wythnos cyn hyrdda, er mwyn nodi problemau ffrwythlondeb posib.” 

“Dylai sgôr cyflwr corff mamogiaid fod yn ffactor mewn penderfyniadau diddyfnu er mwyn peidio â pheryglu ffrwythlondeb y mamogiaid y tymor canlynol,” meddai Mr Kemp. 

Bydd y gweithdy hefyd yn rhoi sylw i bwysigrwydd rheolaeth dda ac effeithiol cyn hyrdda ar gyfer mamogiaid a hyrddod. Byddai hyn yn cynnwys polisi difa llym ar gyfer mamogiaid, iechyd hyrddod a gwiriadau ffrwythlondeb ymhell cyn y tymor hyrdda, triniaethau angenrheidiol, a deall y camau gweithredu sy’n effeithio ar ffrwythlondeb. 

I ddarganfod pa bractisau milfeddygol fydd yn darparu’r modiwlau hyfforddiant AH&W hyn ac ar gyfer lleoliadau a dyddiadau, ewch i’r adran sgiliau a hyfforddiant ar https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu lleol. 

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.