Nod cynllun Profi Menter Gorllewin Sir Gâr yw cynorthwyo pobl ifanc i wella eu sgiliau byd gwaith ynghyd â dangos iddynt sut y gall sgiliau’r iaith Gymraeg fod o fantais iddynt yn eu gyrfa. 

Mae gwefan newydd www.Profi.cymru wedi’i chreu gyda chynnwys digidol apelgar i gynorthwyo pobl ifanc i ddod yn ymwybodol o’u sgiliau a’u cryfderau unigol er mwyn ymgeisio am gyfleoedd yn y dyfodol, a’u hannog i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr cymdeithas.

Cefnogwyd y cynllun gan Gronfa Gymunedol y Loteri  ynghyd â Chronfa Ewropeaidd Cynllun Leader Cyngor Sir Gâr drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Yn ogystal â chreu gwefan rhyngweithiol, mae’r cyllid ychwanegol Leader wedi ein galluogi i ddatblygu cwis sgiliau rhyngweithiol a chreu pum ffilm fer a chyfres o bodlediadau. Y bwriad yw addysgu pobl ifanc am y cyfleoedd sydd ar gael o fewn ein cymunedau ac yna eu hannog i aros, neu symud yn ôl i’r ardal yn dilyn cyfnod yn y coleg neu  yn y brifysgol.

Yn ôl Meinir Evans, Cydlynydd y Cynllun: ‘Gan fod sgiliau pawb yn wahanol, rydym wedi creu adnodd rhyngweithiol a fydd yn cynorthwyo pobl ifanc i adnabod eu cryfderau a’r sgiliau sydd angen iddynt wella ar gyfer y byd gwaith. Rydym yn falch iawn o’r ffaith ein bod wedi gallu creu adnodd arloesol, gan taw dyma’r unig gwis sgiliau rhyngweithiol yr ydym yn ymwybodol ohono yn yr iaith Gymraeg .’

Bydd canlyniadau’r cwis yn sbardun i bobl ifanc i ddarganfod swyddi addas a nodi ar ei CV, ffurflen gais a bydd yn eu galluogi i sôn amdanynt mewn cyfweliadau. Byddwn hefyd yn cefnogi pobl ifanc i ddeall nad yw pawb yn dda mewn bob sgil ac yn eu hannog i feithrin a datblygu’r sgiliau sydd angen arnynt ar gyfer gyrfa o’u dewis nhw, yn ogystal â’u hannog i fanteisio ar eu sgiliau Cymraeg wrth ymgeisio am swyddi.

Mae yna gyfres o bodlediadau a ffilmiau i gyd-fynd â’r wefan er mwyn arddangos y cyfleoedd a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer sectorau sydd wedi eu dewis gan Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-Orllewin Cymru. Y sectorau sy'n ymddangos ym mhodlediadau’r ffilmiau byr yw Adeiladu; Bwyd ac Amaeth; Iechyd a Gofal; Gweithgynhyrchu a Pheirianneg; Diwydiannau Creadigol a Digidol; Gwasanaethau Cyhoeddus ar Trydydd Sector. 

Drwy wrando ar gyfres Pod Profi a gwylio’r ffilmiau,  bydd pobl ifanc yn gallu derbyn cyngor ar y sgiliau sydd eu hangen a pha gamau sydd angen iddynt ddilyn i arwain at yrfa gyffrous o fewn Sir Gâr er mwyn dylanwadu arnynt i ystyried aros, neu ddychwelyd i ddatblygu gyrfa o fewn y Sir.

Gall pobl wrando ar y cyngor yn y podlediadau ar wefan www.profi.cymru, neu drwy Pod Profi (spreaker.com) 

 

 

QR code - Menter Gorllewin Sir Gar

 

Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook - Menter Gorllewin Sir Gar and Cynllun Profi

Tweet - @MenterGSG

Instagram - @cynllunprofi @MenterGSG

Am ragor o fanylion cysylltwch a Meinir Evans Cydlynydd ar e bost meinir@mgsg.cymru neu rhif ffôn 01239 721 934