![Green connections volunteers](/walesruralnetwork/sites/walesruralnetwork/files/styles/post_full/public/images/Green%20connections%20volunteers.jpg?itok=p9SvmS-M)
Roedd hi’n bleser mawr gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru-Brycheiniog allu helpu tirfeddianwyr, Dan ac Annabel, i gynyddu bioamrywiaeth ar eu tyddyn. Bu tîm o gymdogion a gwirfoddolwyr cymwynasgar o Grŵp Lleol Aberhonddu o’r Ymddiriedolaeth yn plannu dros 200m o wrych lled dwbl ac estyniadau coetirol. Roedd hyn oll yn bosibl trwy brosiect Cysylltiadau Gwyrdd Powys. Mae’r prosiect hwn wedi derbyn arian trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Roedd Cysylltiadau Gwyrdd Powys wedi gallu prynu’r coed a oedd wedi’u tyfu yn y DU o hadau yn tarddu o’r DU. Dewiswyd amrywiaeth o rywogaethau a oedd i gyd i’w cael yn yr ardal leol. Caiff y gwrych a’r coetir eu rheoli’n sensitif ar gyfer bywyd gwyllt, gan ddarparu digonedd o fwyar, ffrwythau, cnau a mes.
Fel roedden ni’n gorffen am y diwrnod, fe agorodd y nefoedd felly cawson nhw i gyd hen ddigon o ddŵr!
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Dan ac Annabel ers mis Ebrill 2021. Fis Gorffennaf, gwnaethon ni gynnal Diwrnod Cofnodi Rhywogaethau pan fu cofnodwyr y sir ar gyfer gwyfynod, botaneg, cennau, mamaliaid ac ymlusgiaid yn chwilio o amgylch y fferm am dystiolaeth o gynifer o rywogaethau â phosibl. Cofnodwyd 80 rhywogaeth o wyfynod a 100 rhywogaeth o blanhigion. Bydd y data hyn yn rhoi llinell sylfaen fel y bydd yn bosibl mesur cynnydd bioamrywiaeth yn y dyfodol.
Fis Chwefror 2021, bu tîm o wirfoddolwyr a staff yr Ymddiriedolaeth yn helpu Dan i adfer y pwll tagedig trwy glirio swm mawr o lystyfiant ohono. Roedd yna ambell glwstwr o rifft y broga eisoes yn y pwll. Codwyd y rhain allan i fwced dan wyliadwriaeth agos Val Bradley, arbenigwr amffibiaid trwyddedig, a’u dychwelyd unwaith roedden ni wedi gorffen.
Ewch i wefan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yma: https://www.welshwildlife.org/wtsww-news/green-connections-powys/