Abi and Rich

Mae PLANED, y sefydliad elusennol blaenllaw ar gyfer datblygu cymunedau, wedi’i leoli yng Ngorllewin Cymru, wedi llwyddo i sicrhau cyllid ac wedi cael caniatâd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu Menter Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro.

Dywedodd Abi Marriott, Cydlynydd y Prosiect, “Mae hwn yn brosiect dechreuol gwych fydd yn rhedeg gyfochr â Phrosiect cyfredol Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru o fewn PLANED. Bydd hefyd yn gweithredu model dosbarthu hyblyg, cynhwysol, cynaliadwy yn amgylcheddol ac yn economaidd, gan uno grwpiau cymunedol, cynhyrchwyr bwyd a chyflenwyr yng Nghymru sy’n ysgogi cadwyni bwyd."

O dan arweiniad PLANED, mae’r prosiect wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygiad Cymunedau Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Amaethyddiaeth Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig (EAFRD), Llywodraeth Cymru, a bydd y prosiect hwn yn ymateb i adferiad Covid 19 a galluogi cymunedau ar draws Sir Benfro i gyrchu bwyd wedi'i gynhyrchu'n lleol.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Iwan Thomas: “Fel y gwelsom yn ystod y cyfnodau clo diweddar, mae cadwyni cyflenwi lleol a tharddiad lleol y cynnyrch, wedi dod yn gynyddol bwysig, ac mae'r prosiect hwn gan PLANED nid yn unig yn cefnogi hynny, ond mae hefyd yn awyddus i ychwanegu gwerth at ein heconomïau lleol a llesiant ehangach o fewn y cymunedau hynny.”

Os hoffech ddysgu mwy am y prosiect, cysylltwch yn gyntaf ag abi.marriott@planed.org.uk.  

Dysgwch fwy ar y wefan yma: https://www.communityfood.wales/cy/pfcv