Measure to Manage Image

Bob mis Ionawr, rydyn ni'n gosod addunedau a phenderfyniadau i'n hunain ar gyfer y flwyddyn i ddod gyda'r nod o ddyfodol gwell. Eleni, gall ceidwaid moch yng Nghymru helpu eu hunain i gyflawni hyn gan ddefnyddio rhaglen meincnodi ddwyieithog eu hunain i helpu i wella'n barhaus yn 2022.

Wrth i ni ddechrau blwyddyn newydd, mae nawr yn gyfle gwych i fusnesau adolygu eu perfformiad busnes a’u cenfaint er mwyn sicrhau eich bod yn gweithredu mor effeithlon a phroffidiol â phosibl. 

Er mwyn cynorthwyo busnesau i wneud hyn, mae Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio wedi dod ynghyd i ehangu'r rhaglen feincnodi ar-lein Mesur i Reoli cyfredol ar gyfer cynhyrchwyr moch.

Rhaglen gyfrifiadurol yw Mesur i Reoli sydd wedi'i chynllunio'n benodol fel y gall cynhyrchwyr moch yng Nghymru ei defnyddio i feincnodi eu busnes ac mae'n cynnwys cofnodi eu mewnbynnau, eu hallbynnau a pherfformiad y genfaint am flwyddyn benodol.

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio ar gyfer pob math o gynhyrchwyr moch gan gynnwys y rhai sy'n bridio ac yn gorffen eu moch eu hunain, y rhai sy'n prynu perchyll i'w gorffen, y rhai sy'n bridio ac yn gwerthu'r perchyll wrth eu diddyfnu neu gyfuniad o'r holl systemau hyn.

Mae'r system Mesur i Reoli sydd yn hawdd ei ddefnyddio yn cynnwys meysydd casglu data cam wrth gam sy'n ei gwneud hi'n haws cofnodi gwybodaeth.

Gall gynhyrchwyr moch fewnbynnu data corfforol ac ariannol o gofnodion y fferm i'r rhaglen gyfrifiadurol sydd wedyn yn gwneud dadansoddiad yn seiliedig ar ddangosyddion perfformiadau allweddol (DPA). Yna mae hi’n bosibl cymharu sut rydych chi'n perfformio flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac os yn aelod o grŵp gynhyrchu, gall y ffarmwr gymharu eu perfformiad yn ddienw yn erbyn aelodau eraill o’r grŵp.

Ar gyfer y fuches fridio mae’r DPA yn cynnwys, er enghraifft, cyfraddau porchell, diwrnodau nad ydynt yn gynhyrchiol a nifer y perchyll sy’n cael eu geni, eu diddyfnu a’u gwerthu. Mae'r dadansoddiad adran gorffen yn cynnwys, ennill pwysau byw bob dydd, diwrnodau i orffen ar gyfartaledd, cymhareb trosi bwyd anifeiliaid. Mae'r ddau yn darparu manylion defnydd porthiant, ymyl gros y fuches, dadansoddiad cost amrywiol a gorbenion.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru: 

“Mae’r rhaglen feincnodi newydd yn rhaglen ddefnyddiol ar gyfer cynhyrchwyr moch yng Nghymru ac yn ffordd unigryw o gadw cofnodion a monitro eich busnes er mwyn gweld y meysydd sydd angen eu gwella.  Wrth i ni fynd i mewn i flwyddyn arall a all fod yn gythryblus unwaith eto, dyma amser delfrydol i bwyso a mesur ac edrych ymlaen at nodi ffyrdd o sicrhau bod busnesau'n gweithredu mor gynhyrchiol a phroffidiol â phosibl.

Y cam cyntaf wrth wneud hynny yw dechrau recordio data perfformiad allweddol, rydyn ni wedi datblygu llyfr recordio defnyddiol i ganiatáu i ffermwyr wneud hynny. Gyda'r data hwn, ar ôl ei fewnbynnu i'r rhaglen ar-lein newydd, bydd modd i chi gymharu eich perfformiad o flwyddyn i flwyddyn neu, os ydych chi’n aelod o grŵp gynhyrchwyr Menter Moch Cymru neu Cyswllt Ffermio, bydd modd i chi gymharu yn erbyn busnesau tebyg."

Gall ceidwaid moch sydd â diddordeb ac a hoffai drafod y rhaglen feincnodi neu archebu eu llyfryn recordio am ddim eu hunain gysylltu â Menter Moch Cymru neu Cyswllt Ffermio ar - www.mentermochcymru.co.uk / www.businesswales.gov.wales/farmingconnect.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.