FC new entrants wanted

Mae Rhian Pierce yn wybodus, yn gymwys ac yn ffermwr bîff a defaid galluog iawn sy’n ffermio ochr yn ochr â’i thad ym Mhlas Dolben, Llangynhafal yn Sir Ddinbych. Wrth i Mr Pierce leihau’r amser y mae’n ei dreulio ar y fferm ac edrych tuag at ymddeoliad, a allech chi fod y person iawn i ffermio ochr yn ochr â’i ferch? 

Yn y gorffennol, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur, mae Rhian wedi dibynnu ar ddod â gweithwyr fferm achlysurol i mewn a’u hyfforddi i’w helpu hi a’i thad i redeg Plas Dolben. Nawr, yn benderfynol o gynnal y safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid a’r amgylchedd sy’n rhan o’i hathroniaeth ar redeg busnes fferm effeithlon, cynaliadwy a phroffidiol, mae’n credu y bydd trefniant ffermio cyfran yn darparu’r ateb perffaith, yn y tymor byr a’r tymor hir. 

Mae Rhian wedi cysylltu â rhaglen Mentro hynod lwyddiannus Cyswllt Ffermio, sy’n paru tirfeddianwyr sydd am gamu’n ôl o’r diwydiant neu adael y diwydiant â newydd-ddyfodiaid ifanc sy’n awyddus i ennill eu plwyf. Os bydd y person iawn - mae Rhian yn hapus i hyfforddi unrhyw un sydd heb brofiad ffermio ymarferol yn barod - yn dod ymlaen a’u bod nhw’n addas, bydd Mentro’n darparu cefnogaeth, arweiniad a mentora i’r ddwy ochr yn ogystal â chyngor ariannol a chyfreithiol. 

Gyda rôl gadwraeth ran-amser i ffwrdd o’r fferm, mae Rhian yn gobeithio y bydd ei chynnig ffermio cyfran yn apelio at rywun sydd am gymryd rhan yn rhan amser yn y lle cyntaf, gyda’r bwriad o gael cyfle llawn amser o fewn pum mlynedd.

“Os yw’r trefniant yn addas i’r ddwy ochr, rwy’n rhagweld amser dros y pum mlynedd nesaf, fwy neu lai, pan gallaf gamu’n ôl o rai o’r tasgau fferm mwy caled yn gorfforol i ddilyn diddordebau eraill, felly yn y bôn, fi fydd y ffermwr rhan-amser wedyn gan helpu yn ôl yr angen.

Mae Plas Dolben yn ddaliad bîff a defaid 100 erw sy’n rhannol ucheldirol wedi’i leoli ar Fryniau Clwyd ysblennydd. Mae’r fferm wedi’i lleoli yr un pellter rhwng Rhuthun a Dinbych, sydd ill dau yn 10 munud i ffwrdd mewn car. Mae gan y teulu Pierce hefyd hawliau pori i 200 erw o dir comin gerllaw. 

“Rwy'n gobeithio y bydd Mentro yn dod o hyd i bartner busnes brwdfrydig o'r un anian â fi sy'n gwerthfawrogi fy ymrwymiad i rannu fy ngwybodaeth am ffermio modern gyda'r cyhoedd ehangach, ac yn enwedig gyda phlant ysgol,” meddai Rhian. 

Mae Rhian yn bwriadu parhau i gynnal Diwrnodau Agored ac ymweliadau ysgol ym Mhlas Dolben, pan fydd ymwelwyr yn cael eu gwahodd i weld o ble mae eu bwyd yn dod a dysgu drostynt eu hunain pa mor fuddiol yw trin a gweithio gyda da byw fferm yn bwyllog ac yn dawel, er mwyn diogelu bioamrywiaeth ac i drin yr amgylchedd gyda pharch. 

Mae'r fferm yn cynnwys buches o 60 o wartheg croes British Blue, wedi'u prynu yn yr hydref yn bedair i chwe wythnos oed, eu pesgi a'u gwerthu fel stôr yn 20 mis oed. Mae yna hefyd 350 o famogiaid croes Llŷn, i gyd yn cael eu pesgi ar y fferm a’u gwerthu mewn marchnadoedd lleol neu ar ffurf blychau cig yn uniongyrchol i’r cyhoedd. Mae yna hefyd ddwy hwch Gymreig croes 'Large White' sy'n geni perchyll ddwywaith y flwyddyn. 

“Mae digon o gyfle i ffermwr cyfran newydd gynyddu cyfraddau stocio heb effeithio ar ein system ffermio mewnbwn isel - allbwn uchel bresennol, gyda stoc yn cael eu bwydo’n bennaf ar 50 erw o wair neu silwair rydyn ni’n eu cynaeafu ein hunain,” meddai Rhian.

Mae samplu pridd yn rheolaidd a defnydd wedi’i dargedu o galch a thail ieir wedi'i wasgaru dros y clytwaith o gaeau bach, yn golygu bod caeau'n cael eu gorffwys yn rheolaidd gyda phorfa o'r ansawdd uchaf gan wneud y fferm bron yn hunangynhaliol heb fawr o angen prynu porthiant. 

Mae gan y fferm ystod eang o beiriannau ac offer trin sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda i ffermio'n effeithlon ac yn ddiogel ac mae digon o adeiladau allanol, corlannau trin a buarthau i ymdopi â'r lefelau stocio presennol ac arfaethedig. 

Dywed Rhian ei bod yn hanfodol bod y ffermwr cyfran newydd yn garedig a thawel wrth drin, magu a bugeilio da byw, gan osod esiampl dda i ymwelwyr; gallu gyrru a thrin peiriannau fferm yn effeithlon ac yn ddiogel ac wedi ymrwymo i'w delfrydau ar iechyd a lles anifeiliaid a diogelu'r amgylchedd. 

“Yn bwysicaf oll, rwy’n chwilio am rywun brwdfrydig a galluog, sy’n barod i weithio, yn agored a gonest gydag agwedd hyblyg at helpu ar adegau prysur fel wyna, cynaeafu ac yn ystod ymweliadau fferm.” 

Mae digon o le i ffermwr cyfran newydd gyflwyno systemau neu fentrau newydd priodol a allai gynnwys cynyddu lefelau stocio, dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio’r siediau gwartheg gwag yn yr haf, ac o bosibl datblygu menter blychau cig sy’n cael ei marchnata drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

“Byddwn yn croesawu’r cyfle i roi cyfle i newydd-ddyfodiaid nid yn unig helpu gydag ochr ymarferol gwaith fferm ym Mhlas Dolben, ond i gymryd rhan mewn penderfyniadau strategol hefyd. 

“Rwy’n fwy na pharod i helpu’r unigolyn cywir i ennill sgiliau newydd a chael mwy o brofiad, ond byddaf hefyd wrth fy modd os byddant yn dod â syniadau newydd ac awgrymiadau am ffyrdd gwahanol neu well o weithio a allai fod o fudd i’r busnes yn y tymor hwy, ” meddai Rhian.

I fynegi diddordeb yn y cyfle hwn, lawrlwythwch ffurflen gais o dudalen we Mentro yn www.llyw.cymru/cyswlltffermio dim hwyrach na 10yb ar Ddydd Gwener 10 Chwefror. Fel arall, ffoniwch Gwydion Owen, Swyddog Mentro Gogledd Cymru ar 07498 055 416 neu e-bostiwch: Gwydion.owen@menterabusnes.co.uk

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.