Lleoliad:
Conwy
Swm cyllido:
£3532.00

Disgrifiad o’r Prosiect

Gwaith dichonoldeb i ymchwilio i mewn ac adnabod dulliau newydd o gyd-weithio er mwyn codi'r ymwybyddiaeth o ddefnyddio darnau o gig oen na ddefnyddir yn draddodiadol ( y trim), ac chael gwell dealltdwriaeth or gadwyn gyflenwi gan obeithio cyflwyno rysetiau newydd o ddefnydd cig oen i'r farchnad.  

Trwy gynnal y Gwaith ymchwil, bydd y grwp yn gwella eu dealltdwriaeth or gadwyn gyfenwi, ac adnabod posibiliadau ac anhawsterau wrth geisio cyflwyno trim oen i'r farchnad. bydd y Gwaith hefyd yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn y cigoedd yma. 

Beth oedd canlyniad eich prosiect? 

Daeth wyth ffermwr o Gonwy at ei gilydd i greu Ffermydd Teuluol er mwyn rheoli eu henillion giât fferm.

Maent yn masnachu fel 8 o Ni, ac ar gamau olaf eu profion o’r farchnad ar bedwar o gynhyrchion premiwm a ddyluniwyd i wneud y defnydd gorau o’r chwarthor blaen, yn draddodiadol y rhan anoddaf o’r carcas i’w werthu.

Cysylltodd 8 o Ni â Chadwyn Gyflenwi Conwy Cynhaliol a’r Swyddog Partneriaeth Fusnes Rhys Evans yn dilyn ymchwil cychwynnol i ddatblygu cynhyrchion cig oen newydd ar gyfer archfarchnadoedd a mân-werthwyr am gyllid tuag at astudiaeth ddichonoldeb.

Roedd angen i’r wyth ffermwr: Emyr Owen, Bodrach; Arwyn Evans, Foel Cathau; Euros Williams, Llethr; Trystan Siôn, Tŷ’n y Coed; Barry Wanklyn, Pantllin Mawr; Elwyn Evans, Treiddion; Euros Owen, Llwydfaen a Michael Jones, Ffridd – gynnal ymchwil pwysig i’r farchnad cyn y byddai’r archfarchnadoedd mwy yn gwerthu eu cynhyrchion.

“Y nod yw darparu cynnyrch o ansawdd y gellir ei goginio’n gyflym, gan felly gynnig y cyfleustra y mae’r farchnad yn ei fynnu,” meddai Michael, llefarydd y grŵp.

“Rydym eisiau defnyddio’r chwarthor blaen sy’n anodd ei werthu sy’n blasu gystal yn union. Ein nod yw dangos sut y gellir cyflenwi cig oen o ansawdd uchel wedi ei fwydo ar dir pori o’r fferm i’r plât, ond rydym yn gwneud drwy gynnig yr hyn mae’r farchnad yn ei ddymuno, nid gorfodi’r cynnyrch ar y farchnad.”

Cefnogodd Conwy Cynhaliol “8 o Ni” drwy ariannu Astudiaeth Ddichonoldeb i wneud gwell defnydd, a datblygu ryseitiau modern ar gyfer y ‘trim’, a chwblhau ymchwil trwyadl i’r farchnad a oedd yn cynnwys adborth gan y cyhoedd, ac yn cyflwyno’r cysyniad o archfarchnadoedd a manwerthwyr.

Nod y gweithgaredd oedd penderfynu a oedd marchnad a galw gan y cyhoedd am gynnyrch cig oen Cymreig PGI, sy’n hwylus ac y gellir ei goginio’n gyflym, a chael adborth pellach ar gysyniadau brandio a fydd yn cael eu datblygu. Mae’r gwaith yn cwmpasu potensial y gadwyn gyfan lle bydd trafodaethau gyda phroseswyr, cyfanwerthwyr a manwerthwyr fel y gallwn gael gwell syniad o’r cyfaint y byddai’n bosibl ei werthu, ac i ddeall anghenion contractau cyflenwyr.

Dywedodd Trystan Siôn,

“Ar ran ‘Ffermydd Teuluol’ hoffem ddiolch i Conwy Cynhaliol am y cymorth ariannol a’n caniataodd ni i gynnal yr holl ymchwil oedd ei angen. Drwy gynnal ymchwil i’r farchnad, roedd dealltwriaeth llawer gwell gennym o’r farchnad ac mae wedi rhoi platfform gwych i ni ddechrau ein menter”.

Dywedodd Rhys Evans, Conwy Cynhaliol,

“Mae’n bleser gennym ein bod wedi gallu helpu ‘Ffermydd Teuluol’ i gynnal ymchwil i’r farchnad gig oen. Mae arian ar gael i grwpiau ar draws Conwy i edrych ar wahanol feysydd, rydym yn falch ein bod wedi gallu cefnogi’r fenter wych hon. Mae canlyniadau a chanfyddiadau’r astudiaeth ar gael i unrhyw un eu darllen a’u defnyddio”.

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Rhys Evans
Rhif Ffôn:
01492 576671
Email project contact