Lleoliad:
Abertawe
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£6400.00

Disgrifiad o’r Prosiect:

Y nod yw cyflawni astudiaeth dichonoldeb or amwynderau ar cyfleusterau lleol ym Mhorth Einon, un on cyrchfannau allweddol. Ar l gorffen yr astudiaeth hon, bydd gennym ddogfen weithredol a allai gael ei defnyddio i roi newidiadau ar waith pan fydd ffrydiau cyllido ar gael.  

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Ar ôl cwblhau'r astudiaeth hon, caiff dogfen weithio ei llunio y gellid ei defnyddio i roi newid ar waith pan fydd ffrydiau cyllido ar gael.

Ym Mhorth Einon mae Cyngor Dinas Abertawe yn gweithredu cyfleuster amwynder yn ogystal â meysydd parcio, lleoedd parcio i gychod a llithrfa. Mae nifer o'r cyfleusterau hyn yn hen ac nid ydynt yn addas at y diben. Felly mae angen eu diweddaru, eu moderneiddio a'u gwella i ateb y galw cynyddol o ran y gweithgareddau amrywiol a geir yno a nifer yr ymwelwyr sy'n ymweld â'r pentref.

Drwy gynnal astudiaeth fanwl, y nod yw nodi'r problemau hyn a chymryd ymagwedd gyfannol at edrych ar y safle. Bydd hyn yn canolbwyntio ar y cyfleuster toiledau yn ogystal â mannau parcio ceir, cynllun y ffordd a mannau cyhoeddus, gan gynnwys y twyni tywod a'r traeth. Bydd yr astudiaeth hefyd yn edrych ar ffyrdd y gall aelodau'r cyhoedd gael mynediad i'r traeth a'r twyni tywod a sut maent yn rhyngweithio â'r amgylchedd hwnnw.

Y nod tymor hir yw gwella'r cyfleusterau a chreu twristiaeth gynaliadwy ym Mhorth Einon trwy'r flwyddyn gron a fydd yn cefnogi'r gymuned a'r economi leol.

Pwy arall sy’n elwa?

Bydd buddiolwyr lleol yn cynnwys: Clwb Centurion Lifeguard, Clwb Cychod Porth Einon, Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr, Cyngor Cymuned Porth Einon, YMCA Porth Einon a busnesau lleol.

Bydd busnesau yn elwa o well isadeiledd a gwasanaethau a fydd yn arwain at well profiad i'r rheini sy'n ymweld â'r ardal. 

Gyda gwelliannau i'r safle, anogir mwy o ymwelwyr i ymweld yn amlach a hefyd aros yn hwy, gan gyfrannu at economi leol well.

Beth oedd canlyniad eich prosiect?

Nododd y prosiect gyfleoedd i greu twristiaeth trwy'r flwyddyn gron a fyddai o fudd i gymunedau Porth Einon a Horton. Byddai'r cyfleoedd hyn, os cânt eu datblygu, yn gwella'r economi leol drwy ddarparu swyddi a chyfleoedd i bobl sy'n byw yn yr ardal a hefyd drwy roi cyfle i ymwelwyr ymgymryd â'r gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yn y cyfnod rhwng y tymor brig a'r tymor tawel.

Roedd yr astudiaeth dichonoldeb yn canolbwyntio ar fwyd/diod yn ogystal â chyfleoedd hamdden megis cerdded, syrffio a gwylio bywyd gwyllt. Byddai angen arbenigwyr lleol i ddarparu'r gweithgareddau hyn a bydd hyn yn ei dro yn dod â refeniw ychwanegol i gymunedau lleol.

Nododd y prosiect gyfleoedd i greu twristiaeth trwy'r flwyddyn gron a fyddai o fudd i gymunedau Porth Einon a Horton. Byddai'r cyfleoedd hyn, pe byddent yn cael eu datblygu, yn gwella'r economi leol drwy ddarparu swyddi a chyfleoedd i bobl sy'n byw yn yr ardal a hefyd drwy roi cyfle i ymwelwyr ymgymryd â'r gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yn y cyfnod rhwng y tymor brig a'r tymor tawel.

Roedd yr astudiaeth hefyd wedi nodi mesurau y gellir eu rhoi ar waith i wneud ymweld â'r ardal yn fwy atyniadol i dwristiaid, megis gwell mynediad ac isadeiledd, gwella profiadau ymwelwyr, gan annog ailymweliadau.

1 Creu astudiaeth dichonoldeb  

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.swansea.gov.uk/rdp