Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
£10700.00

Astudiaeth i ddarpar ddatblygiad Glannau Aberdaugleddau

Crynodeb o’r prosiect: 

Mae Porthladd Aberdaugleddau yn Borthladd Ymddiriedolaeth, sy’n golygu nad oes ganddo gyfranddalwyr a’i fod yn cadw ei elw i ailfuddsoddi yn y busnes er mwyn cefnogi ei amcanion allweddol. Mae’r Porthladd yn cynnal portffolio o fusnesau cenedlaethol bwysig sy’n ymwneud â chynhyrchu a dosbarthu ynni a thanwydd ynni. Mae’r gweithgaredd hwn yn cyfrif am 5,000 o swyddi yng Nghymru a buddsoddiad parhaus sylweddol yn yr economi lleol.  

Er budd yr economi leol, mae’r Porthladd yn ceisio cyflawni mwy o amrywiaeth yn yr ystod o weithgareddau a ymgymerir. Mae hyn yn cynnwys ailddatblygu’r hyn sydd newydd ei frandio yng Nglannau Aberdaugleddau.

Fel rhan o’r cynllun £115m ar gyfer hyn, roedd y Porthladd angen ymgymryd ag astudiaeth ddichonoldeb i edrych ar bosibiliadau ailddatblygu Adeiladau’r Cei Gradd II rhestredig, lled-adfeiliedig sydd wedi eu lleoli ar Stryd Fictoria ger y fynedfa i Lannau Aberdaugleddau.

Y nod oedd edrych ar opsiynau a allai ddenu buddsoddiad sylweddol a darparu lleoliad at ddefnydd y gymuned leol, yn ogystal â hybu twristiaeth leol.

Ymgynghorwyd â chyfranddalwyr lleol yn ystod yr astudiaeth ddichonoldeb i ganfod sut y gallai’r gymuned leol ddefnyddio cyfleuster o’r fath. Dynodwyd yr angen am ofod awditoriwm 400-sedd, hyblyg, amlbwrpas, wedi’i gefnogi gan gynnig o fwyd a diod. Byddai hyn yn helpu i ddenu perfformwyr adloniadol o fri i’r Sir, yn ogystal â darparu lle at ddefnydd cymunedol a masnachol ar gyfer ystod amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau.   
 
Yn gysylltiedig â hyn, gan fod yna danwariant ar yr astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol, cytunodd Arwain Sir Benfro y gallai gweddill yr arian gael ei wario ar ail astudiaeth i edrych ar opsiynau ar gyfer ‘Cyswllt Dwyrain-Gorllewin’ sydd â’r potensial i ddatrys y diffyg cysylltiad rhwng canol y dref a’r Glannau, yn sgil y dopograffeg leol – mae yna lethr serth iawn rhwng y ddau leoliad. Cwmpaswyd ystod o opsiynau yn yr astudiaeth, gan gynnwys rhaffordd, lifft gwydr, ac esgaladur â grisiau yn cydredeg.  

Mae MHPA yn ddiolchgar fod cyllid LEADER wedi eu galluogi i gynhyrchu’r astudiaethau hyn, a fydd yn awr yn cefnogi eu ceisiadau am gyllid grant i ddatblygu safle Adeiladau’r Cei a’r cysylltiad â chanol y dref. Mae cyllid LEADER wedi cyfrannu at weledigaeth gyffredinol y Glannau, sy’n amcanu i ddatblygu cysylltiad cryfach rhwng y ddwy ardal ac adfywio’r dref yn gyffredinol, er budd y gymuned, busnesau lleol a thwristiaid fel ei gilydd.   
 
 
 
  
 
 
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Stella Hooper
Rhif Ffôn:
01646 696375
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.mhpa.co.uk