Lleoliad:
Conwy
Swm cyllido:
£2000.00

Disgrifiad o’r Prosiect:

Ail-gyflwyno’r Farchnad Siarter Wlân Draddodiadol yng Nghonwy ac addysgu ymwelwyr a phlant am grefftau traddodiadol ee gwehyddu a nyddu.

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Ailsefydlu'r Ffair Wlân draddodiadol 

• Dangos hyblygrwydd gwlân yn hanesyddol ac yn yr oes fodern, a sut mae gwlân wedi dod yn gynnyrch modern 
• Cynnal arddangosfeydd sy’n dangos technegau cneifio, cribo, nyddu, lliwio â lliwiau organig a naturiol megis mwsogl a chen, a gwehyddu a ffeltio 
• Rhoi cyfle i ymwelwyr gymryd rhan yng ngweithgareddau nyddu, cribo, gwehyddu a ffeltio

Pwy fydd yn elwa ar y prosiect?

Twristiaid, pobl leol, plant ysgol 

Beth oedd canlyniad eich prosiect?  

Treuliodd teuluoedd gryn amser yn gwylio gwaith cneifio a nyddu a chrefftau gwlân eraill. Mae Gwledd Conwy am drefnu digwyddiad tebyg ym mis Hydref. Hefyd, fe wnaeth Gareth Wyn Jones drafod â’r trefnydd y posibilrwydd o ddatblygu agweddau’r ffair.

Beth oedd yr heriau/y  gwersi mwyaf a ddysgwyd yn ystod y prosiect?

Yn y dyfodol mae angen mwy o le ac mae angen annog busnesau lleol i chwarae rôl fwy. 

Beth nesaf i’ch prosiect?

Ystyried sefydlu’r Ffair Wlân fel digwyddiad ar ei ben ei hun yn debyg i’r Ffair Hadau a’r Ffair Mêl. Ystyried datblygu rhywbeth tebyg fel rhan o Wledd Conwy. 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Elen Edwards
Rhif Ffôn:
01492 576670
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.ruralconwy.org.uk