Lleoliad:
Bro Morgannwg
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£12787.00

Disgrifiad o’r prosiect:

Nod y prosiect hwn yw rhoi cymorth i ddarparwyr gweithgareddau ac atyniadau at ddiben creu neu wella ymweliadau ysgolion ac atyniadau teuluol. Y cymorth fydd cyngor ar y pynciau a ganlyn: 
•    Marchnata  
•    Creu adnoddau a datblygu gweithgareddau 
•    Sicrhau bod yr hyn a gynigir yn ddiogel, priodol a chyfreithlon 
•    Cynllunio a chostio busnes
•    Gwneud y mwyaf o’r hyn a gynigir

Beth fydd canlyniadau’r prosiect?

Cynhelir y prosiect i sicrhau bod amryw o fusnesau a sefydliadau yn cydweithio i ymchwilio a phrofi ymweliadau gan ysgolion, partïon plant, twristiaeth i bobl ifanc a’r farchnad gweithgareddau er mwyn creu nifer o adnoddau. Sut i: 

•    ddenu ysgolion a theuluoedd 
•    creu pecynnau adnoddau ar sail amcanion penodol cwricwlwm 
•    creu ymweliadau gwerthfawr a difyr 
•    creu lleoliad sy’n ddiogel, cyfreithlon a phriodol 
•    pennu costau ymweliadau yn unol â’r farchnad a maint yr elw a ddisgwylir 
•    marchnata i ddenu partïon plant 
•    achub ar y cyfle i annog plant i ddychwelyd gyda’u teuluoedd

Beth oedd canlyniad y prosiect?  

Mae’r prosiect yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ond cafwyd y canlyniadau a ganlyn hyd yma: digwyddiad ar gyfer cwrdd â darpar gyfranwyr, a gwaith ymchwil.  Cynhaliwyd sawl digwyddiad i gynrychiolwyr busnesau rannu gwybodaeth ac arferion gorau am ymweliadau ysgolion.
Beth sydd nesaf ar gyfer y prosiect?

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn llunio pecyn adnoddau a fydd yn cynnwys yr hyn a ddysgwyd yn ystod cyfnod y prosiect gan gynnwys sut i ddefnyddio’r cwricwlwm, sut i sicrhau bod ymweliadau’n ddiogel a diddorol, a sut i hyrwyddo ymweliadau. Hefyd, mae porthol ar y wefan Ymweld â’r Fro yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i ddangos yr holl ymweliadau ysgol sydd ar gael ynghyd â gwybodaeth am drefnu mwy nag un ymweliad ar y tro.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Nicola Sumner-Smith
Rhif Ffôn:
01446 704707
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/working/Rural-Communities/Attractive-Vale.aspx