Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£128000.00

Tŷ gwledig Fictorianaidd a pharc Fictorianaidd yn cynnwys gardd furiog ger Hwlffordd, Sir Benfro, yw Scolton Manor. 

Beth yw nodau’r prosiect?

Gwella’r cyfleusterau yn Scolton Manor ac annog rhagor o ymwelwyr gan gynnwys coetsys i’r safle arbennig yma yng Nghanolbarth/Gogledd Sir Benfro.

Sut y cafodd y nodau hyn eu cyflawni?

Mae parc antur newydd yn cynnwys gwifren zip 30 metr, gwe ddringo sy’n troi a siglenni arbennig wedi’u creu er mwyn denu rhieni plant hŷn. Mae parc chwarae pren eisoes ar y safle ar gyfer y plant iau. 

Mae ardal droi fawr ar gyfer coetsys ynghyd â lleoedd parcio dynodedig ar gyfer coetsys wedi’u creu ynghyd â lleoedd parcio ychwanegol ar gyfer digwyddiadau. 
Mae’r ystafell de wedi’i gwella, gyda chymorth gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru, ac mae’n cynnwys siop lyfrau ail-law sy’n gwerthu hen lyfrau llyfrgell. Mae bwydlen yr ystafell de bellach yn cynnwys rhai ryseitiau gwreiddiol o lyfr coginio Eddie Higgon sef matriarch y safle yn ystod Oes Fictoria. 

Beth sydd nesaf i’ch prosiect?

Mae Scolton Manor wrthi’n gwella eu cyfleusterau fel y gallant gynnal seremonïau sifil a phriodasau. Maent hefyd yn ymchwilio i ffrydiau cyllid eraill fel y gallant barhau i wella a datblygu’r safle arbennig yma yn Sir Benfro. Mae’r safle’n cynhyrchu ei hufen ia blasus ei hun. 
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Gwyn Evans
Email project contact