Lleoliad:
Ynys Môn
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£39960.00

Ar ddechrau’r 1990au, gadawodd y ffermwr, Peter Williams, ei gartref ar Ynys Môn i weithio ar fferm 30,000 o ddefaid ger Riyadh, Saudi Arabia. Roedd yn benderfynol o ehangu ei orwelion a dysgu cymaint â phosibl am wahanol ffyrdd o fagu a bugeilio defaid. Arweiniodd ei awch am ddysgu at daith i weithio ar fentrau defaid yn Seland Newydd ac Awstralia hefyd, cyn dychwelyd adref ym 1993 i weithio ar y fferm deuluol.

Wrth weithio yn Riyadh gyda’r ddiadell anferth o famogiaid Romney a fewnforiwyd o Awstralia, a’u croesi gyda hyrddod cynffon dew brodorol Saudi Arabia, feddyliodd Peter erioed mai ef a’i ffrind Bedwyr Jones sy’n ffermio yn Eryri, fyddai’r ffermwyr cyntaf i ddod â’r brid cynffon dew i’r DU bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach.

Yn dilyn cyfarfod ar hap mewn cyfarfod Cyswllt Ffermio yn 2018, dechreuodd y ffrindiau sgwrsio. Roedd y ddau’n bryderus am oblygiadau Brexit, a buont yn trafod mentrau arallgyfeirio posibl a allai ddod â ffrydiau o incwm ychwanegol er mwyn diogelu eu busnesau. Roedd Peter wedi gwneud digon o waith ymchwil i’r farchnad i sylweddoli bod bwlch yn y farchnad er mwyn gwerthu cig oen arbenigol i leiafrifoedd ethnig yn y DU, felly penderfynodd ef a Bedwyr i symud y syniad yn ei flaen gyda’i gilydd.

Fe wnaethon nhw ofyn am gyngor gan Cyswllt Ffermio, a chawsant eu cynghori i ymgeisio am gymorth drwy brosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru, sy’n darparu cyllid ac arweiniad arbenigol er mwyn datblygu syniadau newydd a phrosiectau arloesol ar ffermydd. Mae EIP yng Nghymru yn cael ei weinyddu gan Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Fis yma, mae Peter, sy’n ffermio ryw dair milltir i ffwrdd o arfordir godidog Ynys Môn, a Bedwyr yn croesawu dau grŵp newydd o ŵyn Damara pur a chroes fel rhan o fenter gyffrous newydd yn y prosiect EIP blaengar hwn.

Penodwyd Geraint Hughes fel brocer arloesedd EIP ar gyfer y prosiect. Bu ‘n helpu Peter a Bedwyr, ynghyd â Tricia Sutton, cyn-filfeddyg gyda’r llywodraeth, sydd bellach wedi ymddeol, a ymunodd â’r grŵp fel cynghorydd technegol i oruchwylio’r holl faterion iechyd a hwsmonaeth anifeiliaid, i gyflwyno cais am gymorth ariannol fel grŵp drwy EIP, a’r wybodaeth arbenigol ychwanegol angenrheidiol i wireddu eu syniadau.  

Fis yma, mae Peter a Bedwyr yn brysur yn croesawu eu hŵyn cynffon dew Damara cyntaf ar gyfer y gwanwyn ar fferm Peter. Dywed y ddau fod llawer iawn o reolau biwrocrataidd i’w bodloni, gyda llawer iawn o waith papur angen cael ei gwblhau a’i gymeradwyo gan sawl awdurdod o wahanol wledydd.

Mae dyfalbarhad y grŵp wedi talu ar ei ganfed. Mae embryonau wedi’u rhewi a gafodd eu ffrwythloni’n naturiol yn New South Wales cyn cael eu rhewi, eu cludo a’u dadmer ar gyfer trawsblaniad, eisoes wedi cynhyrchu chwe oen Damara pur ac iach - tri oen gwrw a thri oen benyw.

Daeth yr ŵyn croes yn fuan wedyn, gyda semen wedi’i rewi wedi cael ei drawsblannu i nifer o ddefaid Peter a Bedwyr, sef mamogiaid Texel, Lleyn a Romney croes yn bennaf, ym mis Rhagfyr. Gyda mwy na 50 o famogiaid yn gyfoen - a chyfradd llwyddiant o 75% + eisoes wedi arwain at gynhyrchu mwy na 65 oen iach, gyda mwy i ddod - mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair. 

“Mae nifer o fathau o ddefaid gyda chynffon dew - lle mae’r braster yn cael ei storio’n bennaf yn eu cynffonnau - ond mae pob un ohonynt yn adnabyddus am eu cig di-fraster gyda blas nodweddiadol, ac rwy’n gwybod o brofiad o weithio dramor fod cig o’r fath yn boblogaidd iawn mewn cymunedau ethnig,” meddai Peter. 

“Er fy mod wedi rhoi’r syniad yma i gefn fy meddwl ers sawl blwyddyn, cefais fy mherswadio’n fuan iawn o ganlyniad i waith ymchwil mwy diweddar gyda nifer o fanwerthwyr, bwytai a lladd-dai y gallai’r cig arbenigol hwn, sydd eisoes yn boblogaidd mewn gwledydd eraill, hefyd apelio i’r farchnad arbenigol mewn rhai o’r dinasoedd mawr gyda’r diwylliant mwyaf amrywiol yn y DU.” 

Felly, beth yw’r camau nesaf ar gyfer y ffermwyr mentrus a blaengar yma o Gymru? Mae Peter a Bedwyr yn falch iawn fod yr holl ŵyn yn ffynnu, ac os bydd popeth yn mynd yn ôl y cynllun, maent yn bwriadu cadw mwyafrif yr ŵyn fel rhan o gynllun magu i gynyddu niferoedd y brid cymharol brin hwn. 

“Gan fod y ddiadell yn ffynnu cystal hyd yma, rydym ni’n ffyddiog y bydd modd i ni gynyddu’r niferoedd yn raddol, cadw golwg ar eu cynnydd ac yna dechrau cyflenwi allfeydd, yn uniongyrchol a thrwy gyfanwerthwyr."

“Rydym ni i gyd yn ddiolchgar iawn i EIP yng Nghymru ac i Geraint Hughes sydd wedi ein cynorthwyo ers y dechrau."

“Heb arbenigedd Geraint i’n cynorthwyo i sefydlu ein grŵp EIP, a’n helpu drwy’r broses o ymgeisio am gyllid, a’i gefnogaeth barhaus sydd wedi sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda rheoliadau llym yn ymwneud â mewnforio embryonau a semen anifeiliaid, ni fyddai’r fenter hon wedi gallu sefydlu.”

Am ddiweddariadau ar brosiectau EIP yng Nghymru sydd wedi cael eu cwblhau neu ar waith ar hyn o bryd, cysylltwch ag Owain Rowlands ar: 07399 849 151 neu eipwales@menterabusnes.co.uk. Am gyngor ynglŷn â’r holl gefnogaeth arall sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio 

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Geraint Hughes
Email project contact