Rebecca Summons

Mae strategaethau rheoli tir effeithiol yn allweddol bwysig i bob ffarmwr. Diolch i ddewis ehangach Cyswllt Ffermio o gyrsiau e-ddysgu wedi eu hariannu’n llawn gallwch gael y wybodaeth y mae arnoch ei hangen o’ch cartref eich hun, ar lefel a chyflymder sy’n addas i chi. 

Wedi eu dosbarthu yn y categorïau bras ‘busnes’, ‘da byw’ a ‘thir’, bydd pob modiwl hyfforddi rhyngweithiol ar-lein – disgwyliwch gymryd tua 20 i 30 munud i gwblhau pob un - yn dysgu elfennau sylfaenol yr hyn sydd arnoch angen ei wybod i chi.  Gyda chwis syml ar ddiwedd pob cwrs yn eich galluogi i asesu beth yr ydych wedi ei ddysgu, fe fyddwch yn gweld yn fuan pa feysydd y gall fod angen i chi ail edrych arnyn nhw a gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf ar bob math o bynciau. 

Yn y categori rheoli ‘tir’, nid yn unig gallwch ddysgu sut i osgoi torri rheoliadau’r parthau perygl nitradau, rheoli plaleiddiaid yn briodol a lleihau nwyon tŷ gwydr, byddwch yn dysgu sut i ffermio yn fwy ‘doeth’ o ran lleihau’r holl lygredd amaethyddol, her fawr sy’n wynebu pob busnes fferm blaengar heddiw.  

Yn y categori hwn hefyd mae modiwlau fydd yn rhoi gwybodaeth am yr hyn y mae angen i chi ei wybod am slyri, silwair a rheoli dŵr glaw; rheoli maetholion fferm a chompostio ar y buarth. 

Esbonia Rebecca Summons, rheolwraig Iechyd a Lles Anifeiliaid ac E-ddysgu Lantra Cymru, sydd, ar y cyd â Menter a Busnes, yn darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig, bod e-ddysgu yn gallu rhoi’r wybodaeth a’r cyfarwyddyd angenrheidiol i chi gael y systemau a’r gweithdrefnau gorau yn eu lle. 

“Os oes gennych ddiddordeb mewn rhedeg eich busnes ar y lefel uchaf posibl ar draws pob lefel, a ddylai yn ei dro arwain at fwy o elw, yna bydd e-ddysgu yn rhoi’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen i chi."

“Bydd y dewis ehangach o gyrsiau e-ddysgu wedi eu hariannu’n llawn gan Cyswllt Ffermio yn eich helpu i ymdrin ag amrywiaeth gynhwysfawr o bynciau a phroblemau a all fod yn atal eich fferm rhag gweithredu ar ei lefel gorau,” dywedodd Ms. Summons. 

Pwysleisiodd Ms Summons pa mor hawdd a chost effeithiol y gall hi fod i weithredu systemau a fydd yn eich helpu i gael y canlyniadau gorau ar draws sbectrwm eang o bynciau yn amrywio o reoli tir ac iechyd anifeiliaid i fusnes, agweddau ariannol a marchnata.

Disgrifir pob modiwl rhyngweithiol fel tameidiau byr, a gall pob modiwl gael ei ailadrodd nes y byddwch yn hyderus bod gennych yr holl ffeithiau y mae arnoch eu hangen ar flaenau eich bysedd. Am olwg gyffredinol ar ba bynciau sydd ar gael a beth sy’n cael ei drafod ym mhob un, ewch i llyw.cymru/cyswlltffermiosgiliauhyfforddiant

I gael mynediad at bob cwrs e-ddysgu, bydd angen i chi fod wedi cofrestru eich cyfeiriad e-bost unigol gyda Chyswllt Ffermio a mewngofnodi ar BOSS trwy Sign On Cymru. Rydych wedyn yn barod i ddewis y modiwl e-ddysgu y mae arnoch ei angen.  Os oes arnoch angen help gydag unrhyw ran o’r broses hon, gallwch gysylltu â’ch swyddog datblygu lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio. 

Ar ddiwedd pob cwrs e-ddysgu a gwblhawyd, bydd ‘Tystysgrif cwblhau’ yn cael ei huwchlwytho ar eich cofnod datblygiad proffesiynol parhaus ar eich Storfa Sgiliau bersonol ar-lein ar eich rhan.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.